Ymgynghoriad y Strategaeth a Ffefrir

Rydym yn ymgynghori ar y Strategaeth a Ffefrir gennym i Ddisodli’r Cynllun Datblygu Lleol.

Mae’r strategaeth yn rhoi’r cyd-destun ar gyfer paratoi polisïau, cynigion a dyraniadau defnydd tir manylach yn y Cynllun Datblygu Lleol Adneuo sydd ar y gweill. Hefyd, mae’r strategaeth yn rhoi ein gweledigaeth, ein hamcanion strategol a’r Strategaeth Ofodol ar gyfer datblygiad a thwf Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn y dyfodol. Mae’n gyfres o bolisïau strategol ar gyfer prif flaenoriaethau’r Cynllun Datblygu Lleol (CDLl).

Y strategaeth a ffefrir yw rhan gyntaf y broses o ddisodli CDLl Pen-y-bont ar Ogwr. Mae'n cyfleu diwedd y gwaith o baratoi ac ymgysylltu’r cynllun cyn adneuo, ac felly, dyma’r ‘Ymgynghoriad Cyhoeddus Statudol ar y Cynigion cyn Adneuo’.

Cyflwyno sylwadau am y strategaeth a ffefrir

Y dyddiad cau ar gyfer gwneud sylwadau ar y strategaeth a ffefrir ar gyfer CDLl Pen-y-bont ar Ogwr yw 5pm ar 8 Tachwedd 2019.

Rydych chi'n gallu cymryd rhan drwy lawrlwytho’r ddogfen strategaeth a’r ffurflen ymateb isod:

Dychwelwch y ffurflenni wedi'u cwblhau at:

Cyfeiriad: Cynllunio Datblygu, Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Y Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 4WB.
Ffôn: 01656 643168
Cyfeiriad ebost: ldp@bridgend.gov.uk

Mynd i ddigwyddiad ymgynghori

Yn y digwyddiadau hyn, gallwch siarad â swyddog cynllunio. Fodd bynnag, bydd dal angen i sylwadau ar yr ymgynghoriad gael eu gwneud yn ysgrifenedig o ran yr opsiynau uchod.

Lleoliad Dyddiad ac amser
Portakabin yn Adeiladau Jennings, Porthcawl

7 Hydref, 12pm - 6pm

8 Hydref, 10am - 1pm

Llyfrgell Pil

14 Hydref, 2pm - 6pm

15 Hydref, 10am - 1pm

Llyfrgell Pencoed

21 Hydref, 2pm - 6pm

22 Hydref, 10am - 1pm

Ystafell Gyfarfod Cyngor Tref Maesteg

28 Hydref, 2pm - 6pm

29 Hydref, 10am - 1pm

Swyddfeydd Dinesig Pen-y-bont ar Ogwr 4 - 8 Tachwedd, 8.30am - 5pm

Dogfennau ategol

Mae’r rhain ar gael mewn fformatau eraill ar gais.

Chwilio A i Y

Back to top