Asedau Seilwaith Gwyrdd
Mae’r rhan fwyaf o nodweddion tirwedd naturiol a lled-naturiol yn seilwaith gwyrdd, a gall llawer gyflawni un neu fwy o swyddogaethau.
Mae sylfaen werdd yn cynnwys coed, gofod gwyrdd, dyffrynnoedd afonydd a dyfrffyrdd a llwybrau cerdded a beicio.
Maent yn adlewyrchu cymeriad lleol, yn galluogi bywyd gwyllt i ffynnu, yn cynnig llwybrau trafnidiaeth cynaliadwy ac yn lleihau effaith newid hinsawdd.
Mae ardaloedd trefol yn cynnwys pob boulevard, plaza, to gwyrdd a wal. Maent yn lleoliadau atyniadol ar gyfer siopa a hamdden ac yn gwella hyfywedd yr economi leol.
Mae coed ar strydoedd a gofod gwyrdd yn gwneud aneddiadau’n haws byw ynddynt. Maent yn darparu cysgod ac aer glanach ac yn rhoi lle i ni ymlacio a byw yn iach.
Mae hyn yn creu llefydd nodedig ac yn sicrhau manteision economaidd niferus.
Mae lleoliadau atyniadol yn annog buddsoddiad mewnol. Gallant gynnwys trafnidiaeth gynaliadwy, draeniau trefol cynaliadwy, casglu dŵr glaw a glanhau dŵr gwastraff.
Maent yn creu gweithleoedd atyniadol a nodedig, yn cyfrannu at economi leol hyfyw, yn lleihau’r risg o lifogydd ac effeithiau newid hinsawdd ac yn creu gofod i fyd natur.
Gall hyn gynnwys gofod ar gyfer ymlacio a byw yn iach, annog rhyngweithio cymdeithasol a thyfu bwyd, creu cydlyniant cymunedol a gwneud yr anheddiad yn fwy cyfforddus a haws byw ynddo.
Gall seilwaith gwyrdd wella gwerth eiddo a lleihau effeithiau newid hinsawdd drwy ddraenio naturiol, defnydd o ynni adnewyddadwy a chyfeirio adeiladau i ddal cymaint â phosib o haul.
Gallai canolfan gymunedol fod yn adeilad cynaliadwy gyda tho gwyrdd, gwresogi ac oeri geothermal, a chasglu dŵr glaw.
Byddai hyn yn helpu i leihau effeithiau newid hinsawdd ac yn gweithredu fel hwb cymdogaeth. Gallai gofod gwyrdd cysylltiedig ddarparu ar gyfer gweithgareddau byw yn iach gan gynnwys chwaraeon a chyfleoedd i ddysgu a thyfu bwyd.
Mae addasu arfordirol dan reolaeth yn lleihau’r risg o lifogydd, yn darparu safleoedd posib ar gyfer ynni adnewyddadwy ac yn creu cynefinoedd cysylltiedig ar gyfer bywyd gwyllt.
Mae ardaloedd arfordirol yn darparu cyfleoedd ar gyfer dysgu a hamdden ac yn sicrhau manteision economaidd drwy dwristiaeth.
Mae parciau gwledig yn gartref i amrywiaeth o gynefinoedd a gofod gwyrdd hygyrch. Gallant gael eu rheoli er mwyn i fywyd gwyllt ffynnu ac i bobl fwynhau defnyddio’r gofod ar gyfer ymlacio a hamdden egnïol.
Maent yn darparu cyfleoedd dysgu a chyflogaeth drwy ddigwyddiadau a swyddi fel wardeiniaid, rheolwyr gofod gwyrdd ac allgymorth addysgol.
Mae rhandiroedd, tyddynnod a pherllannau’n darparu gofod i adfer cynhyrchu bwyd nodedig o ffynhonnell leol a chysylltu poblogaethau trefol â’r economi wledig.
Gallent ddarparu cyfleoedd i ddysgu a phrentisiaethau garddio, tyfu llysiau a ffrwythau, cadw gwenyn a garddwriaeth. Hefyd gallent ddarparu gofod awyr agored a gweithgareddau sy’n helpu i ddod â chymunedau at ei gilydd a darparu ffyrdd o fyw egnïol.
Mae systemau draenio cynaliadwy yn cynnwys pyllau arafu, pantiau a chorslwyni i ddarparu ffyrdd naturiol o leihau’r risg o lifogydd, darparu man storio dros dro a gwella ansawdd dŵr.
Hefyd maent yn creu cynefinoedd tir gwlyb i fywyd gwyllt mewn lleoliad dyfrol atyniadol gyda photensial ychwanegol am gyfleusterau hamdden hygyrch.
Gall ardaloedd yr ucheldir gynnwys amaethyddiaeth, porfa, cynhyrchu coed a chynhyrchion coed, biomas ar gyfer gwaith CHP lleol a chreu ynni adnewyddadwy.
Mae’r rhain i gyd yn darparu manteision economaidd niferus ac yn lleihau effaith newid hinsawdd. Gellir defnyddio’r ardaloedd ar gyfer chwaraeon eithafol, ymlacio a gweithgareddau byw yn iach, gan warchod cynefinoedd bregus i fywyd gwyllt ac adfer cymeriad naturiol.