Manteision Seilwaith Gwyrdd
Ceir tystiolaeth sy’n dangos bod seilwaith gwyrdd yn creu llefydd sy’n darparu manteision i fusnesau, trigolion lleol a’r cyhoedd yn gyffredinol.
Gellir cynllunio’r dirwedd naturiol i gyflawni swyddogaethau rheoli dŵr, aer a hinsawdd sy’n gallu lleihau’r angen am seilwaith peirianyddol costus.
Mae coed a phlanhigion yn glanhau amgylcheddau drwy gael gwared ar lwch a llygredd o’r aer fel oson, nitrogen deuocsid a chyfansoddion organig anweddol. Hefyd, mae cynefin addas yn annog bywyd gwyllt, sy’n beth gwych i’w weld. Mae ardaloedd o ofod gwyrdd o amgylch datblygiadau’n darparu gofod ar gyfer draenio dŵr. Mae nodweddion bychain fel pantiau, systemau draenio cynaliadwy a gerddi glaw yn gallu edrych yn atyniadol a gwneud hyn ar yr un pryd.
Mae coed ar strydoedd, toeau gwyrdd, waliau, parciau a gerddi i gyd yn cyfrannu at leihau effaith ynys wres drefol. Cydnabyddir hwn fel achos arwyddocaol i farwolaeth gynamserol mewn dinasoedd.
Os yw datblygiad arfaethedig yn effeithio ar gymuned sy’n bodoli eisoes, dylai cynllun y gofod agored ystyried dyheadau ac anghenion y gymuned honno. Gellir cael gwybodaeth o’n hasesiadau ni o ofod agored a hamdden, partneriaethau cymunedol presennol ac ymarferion ymgynghori pwrpasol fel Spaceshaper: A User’s Guide.
Mae trigolion a chyflogeion yn hapusach ac yn iachach pan maent yn byw mewn ardal werdd. Mae manteision ffisiolegol o fod yn hapusach mewn amgylchedd gwyrdd yn hytrach na llwyd. Pan mae mynediad at ofod gwyrdd gerllaw, mae mantais hefyd o gysgod, ansawdd aer gwell a’r tebygolrwydd cynyddol o hamdden anffurfiol.
Yn fwy na hynny, yn 2011, canfu astudiaeth gan Goleg Gwyddoniaeth Amaethyddol, Defnyddwyr ac Amgylcheddol Prifysgol Illinois bod mynediad at fyd natur ac amgylcheddau gwyrdd yn gwella’r canlynol:
- swyddogaethau’r meddwl
- hunanddisgyblaeth
- rheoli mympwyon
- iechyd meddwl yn gyffredinol
- adfer ar ôl llawdriniaeth
- swyddogaeth y system imiwnedd
- lefelau glwcos iachach yn y gwaed i bobl â diabetes
- statws iechyd swyddogaethol a sgiliau byw yn annibynnol ymhlith oedolion hŷn
- haelioni
- parodrwydd i gymdeithasu
- cyswllt cymdeithasol ymhlith cymdogion
- cyd-ymddiriedaeth
- parodrwydd i helpu eraill
I’r gwrthwyneb, mae llai o ofod gwyrdd yn gysylltiedig â’r canlynol:
- symptomau gwaeth anhwylder diffyg canolbwyntio/gorfywiogrwydd
- cyfraddau uwch o anhwylderau pryder
- cyfraddau uwch o iselder clinigol
- cyfraddau uwch o ordewdra mewn plant
- cyfraddau uwch o 15 allan o 24 math o salwch a all gael diagnosis, gan gynnwys clefyd
- cardiofasgiwlar
- mwy o unigrwydd
- cefnogaeth gymdeithasol wael
- mwy o drais, ffyrnigrwydd, troseddau treisgar a throseddau eiddo
Mae’r ffactorau hyn yn annibynnol ar elfennau amrywiol eraill fel cyfoeth personol. Yn gyffredinol, mae pobl yn hapusach ac yn iachach mewn amgylchedd gwyrdd na llwyd.
Trigolion
Mae tirweddau gwyrdd atyniadol yn creu gofod i gymunedau ryngweithio ac esblygu. Mae creu cymunedau cadarnach fel hyn yn gwella cydlyniant cymdeithasol ac yn helpu i leihau costau cymdeithasol fel troseddu.
Dywedodd Asesiad Ecosystemau Cenedlaethol Llywodraeth y DU yn 2011 bod byw yn agos at ofod gwyrdd yn darparu budd o £300 y person y flwyddyn.
Cyflogeion
Mae gofod gwyrdd o amgylch y gweithle’n gwella iechyd a chymhelliant gweithwyr gan arwain at well cynhyrchiant, llai o ddyddiau’n sâl a chyfraddau cadw staff uwch.
Mae ymchwil yn dangos bod buddsoddi mewn seilwaith gwyrdd ar ddechrau datblygiad yn sicrhau manteision ariannol i ddatblygwyr drwy gynyddu prisiau gwerthu.
Mae’r Gymdeithas Cynllunio Gwlad a Thref wedi dangos bod tirwedd atyniadol a nodweddion gwyrdd yn cynyddu gwerth eiddo rhwng 6 a 18%.
Cynhaliodd y Comisiwn Pensaernïaeth ac Amgylchedd Adeiledig (CABE) ymchwil tebyg sy’n dod i’r casgliad bod gwerth eiddo yn cynyddu ger gofod gwyrdd. Ar gyfartaledd, mae tai agos at barciau’n sicrhau prisiau 8% yn uwch nag eiddo tebyg ymhellach i ffwrdd.
Hefyd, ceir tystiolaeth i awgrymu bod amgylchedd atyniadol a ddarperir gan seilwaith gwyrdd yn gallu rhoi hwb i fuddsoddiad mewnol.
Mae cynllunio tirwedd da yn sicrhau bod pawb yn gallu symud drwy’r safle a mwynhau ei ofod agored, heb ystyried oedran, anabledd, ethnigrwydd neu grŵp cymdeithasol.
Dylid rhoi ystyriaeth benodol i’r canlynol:
- cynllun llwybrau troed, llwybrau, rampiau, seddau, stepiau a chaeau chwarae
- osgoi rhwystrau i gerddwyr, gan gynnwys y rhai â chadeiriau olwyn, cadeiriau gwthio a phramiau
- gosod arwyddion o bob math ar uchder hawdd eu darllen a’u gweld i holl ddefnyddwyr safle, gan gynnwys plant bach
Ni ddylid ystyried ased seilwaith gwyrdd fel tir heb ei ddatblygu sy’n ddim ond cost i ddatblygwyr. Yn wir, mae’r gwrthwyneb yn wir. Gall rhwydwaith unigol neu ryng-gysylltiedig o asedau seilwaith gwyrdd roi llawer iawn o elw ar fuddsoddiad. Mae hyn yn berthnasol i brosiectau newydd, gyda seilwaith gwyrdd o’r dechrau, a safleoedd presennol lle gall buddsoddiad wella eiddo hŷn a chreu mwy o werth.
Trafod pris
Mewn rhai achosion, gall tir ddod yn anaddas ar gyfer datblygu oherwydd y risg o lifogydd. Mae hyn yn tynnu sylw at bwysigrwydd adnabod asedau safle cyn unrhyw ddatblygiad ac, o bosib, cyn prynu’r tir. Gall adnabod asedau safle a’r gofynion o ran darparu seilwaith gwyrdd gael ei ddefnyddio fel adnodd i drafod y pris wrth brynu tir.
Ffrydiau incwm
Efallai y bydd datblygwyr sy’n buddsoddi mewn gofod agored a thirlunio strwythurol mewn cynllun preswyl yn gallu gwneud iawn am y costau cychwynnol hyn. Gellid gwneud hyn drwy godi premiwm ar eiddo sy’n edrych dros y nodwedd neu’n cael budd ohoni. Hefyd gall asedau seilwaith gwyrdd gefnogi ffrydiau incwm fel caeau chwarae neu ofod rhandir lle codir ffi ar drigolion am eu defnyddio.
Costau cynnal a chadw
Dylai datblygwyr geisio cadw’r costau cynnal a chadw mor isel â phosib, ond galluogi i fwriad gwreiddiol y prosiect gael ei wireddu’n llawn. Gellir gwneud hyn drwy roi ystyriaeth ofalus i gynllun ac amrywiaeth y cyfleusterau sy’n cael eu darparu.
Dylid trafod y dull o gynnal a chadw’r seilwaith gwyrdd yn barhaus gyda’r Adran Gynllunio yn ystod proses y cais cynllunio. Bydd y math o seilwaith gwyrdd a ddarperir a’r mynediad yn penderfynu a fydd y datblygwr neu’r cyngor yn gyfrifol am gynnal a chadw. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn Adran 6 CDLl Pen-y-bont ar Ogwr.
Costau ariannol a rhwymedigaethau cynllunio
Mae costau ariannol darparu seilwaith gwyrdd yn cael eu talu gan y datblygwr. Bydd hyn naill ai drwy gynllunio a chyflwyno seilwaith gwyrdd fel rhan o gynllun cyffredinol neu drwy gyfraniadau ariannol.
Darperir cyfarwyddyd ar ddefnyddio rhwymedigaethau cynllunio ym Mholisi Cynllunio Cymru (2012) a Chylchlythyr Swyddfa Cymru 13/97 Rhwymedigaethau Cynllunio.
Gellir ceisio rhwymedigaethau o dan yr amgylchiadau canlynol:
- pan maent yn angenrheidiol i wneud datblygiad arfaethedig yn dderbyniol o ran cynllunio defnydd tir
- pan maent yn uniongyrchol gysylltiedig â’r datblygiad arfaethedig
- pan maent yn rhesymol gysylltiedig o ran graddfa a math â’r datblygiad arfaethedig
Cynllun da
Gall cynllun amgylcheddau allanol gael dylanwad sylweddol ar droseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol o ran y canlynol:
- cyfleoedd ar ei gyfer
- y gallu i’w ganfod
- pobl yn ei ofni
Dylai’r cynllun osgoi creu ardaloedd dros ben sy’n anodd eu cynnal a’u cadw a/neu nad ydynt yn gwasanaethu unrhyw swyddogaeth. Fel rheol mae’r rhain yn cael eu hesgeuluso ac yn denu ymddygiad annymunol. Dylai amgylcheddau allanol, gan gynnwys llwybrau, fod yng ngolwg adeiladau a ddefnyddir neu ffyrdd, i gynyddu’r oruchwyliaeth naturiol ac i atal ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Yr amgylchedd naturiol
Mae gan nodweddion naturiol fel coed rôl bwysig i’w chwarae mewn creu amgylcheddau o ansawdd uchel y gall trigolion fod yn falch o fyw ynddynt. Dylai cynllun da gadw a rheoli nodweddion o’r fath, a sicrhau’r oruchwyliaeth orau bosib. Yn yr un modd, gall gofod agored naturiol heb ei oruchwylio ryw lawer ddarparu cyfleoedd ar gyfer chwarae creadigol, yn gyfle i blant ddysgu sut i ddelio â risg.
Hefyd gall y gymuned gyfan ddefnyddio ardaloedd gwyrdd i fwynhau ac ymwneud â gofalu am eu hamgylchedd lleol. Gall y rhain helpu i greu ymdeimlad o berchnogaeth a chyfrifoldeb cymunedol, gan wneud yr ardaloedd hyn yn llai tebygol o ddenu ymddygiad annymunol.
Mae cysylltiadau ar raddfa tirwedd yn angenrheidiol er mwyn lleihau darnio, gwella cysylltiedig a sicrhau ecosystemau sy’n gweithio. Wrth gyflawni’r swyddogaethau hyn, mae seilwaith gwyrdd hefyd yn creu gofod ar gyfer byd natur.
Mae’n gwella cynefinoedd bywyd gwyllt ac yn integreiddio bioamrywiaeth yn yr amgylchedd adeiledig, gan ei gynnwys mewn dinasoedd a galluogi trigolion trefi i fwynhau byd natur.