Parcio
Gwybodaeth am barcio ar gyfer Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, gan gynnwys trwyddedau, meysydd parcio a gorfodaeth.
Edrychwch ar y meini prawf cymhwysedd ar gyfer cael bathodyn glas. Mae Bathodyn Glas yn ei gwneud yn haws i bobl sydd ag anawsterau cerdded, nam gwybyddol neu broblemau symudedd eraill barcio’n nes at eu cyrchfan. Gall yr ymgeisydd fod yn yrrwr neu’n deithiwr.
Dysgwch am y meysydd parcio rydym yn eu gweithredu, yr oriau agor ac unrhyw gostau.
Edrych ar reolau parcio Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, a thalu hysbysiad tâl cosb.
Ar hyn o bryd, mae’r trwyddedau am ddim, ond dim ond un drwydded a ganiateir i bob person. Dim ond ar ffyrdd gyda chynlluniau yn eu lle allwch chi gael gofod parcio preswyl.
Ewch i wefan Partneriaeth Prosesu Cosbau Cymru i dalu neu herio hysbysiad tâl cosb ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Gallwch adrodd am gerbydau sydd wedi eu parcio’n anghyfreithlon neu sydd mewn lleoliad anaddas drwy gwblhau ein ffurflen ar-lein. Sylwch: Os yw’r cerbyd wedi’i barcio ar balmant gan achosi rhwystr, mae hyn yn fater i’r heddlu a bydd angen i chi ei adrodd drwy 101.
Rhoddir hepgoriadau i adeiladwyr a masnachwyr sydd angen mynediad i lwytho/dadlwytho cerbyd mewn ardaloedd cyfyngedig neu barthau parcio preswylwyr at ddibenion gwaith.