Bathodyn glas
Mae Bathodyn Glas yn ei gwneud yn haws i bobl sydd ag anawsterau cerdded, nam gwybyddol neu broblemau symudedd eraill barcio’n nes at eu cyrchfan.
Gall yr ymgeisydd fod yn yrrwr neu’n deithiwr.
Yng Nghymru, nid oes tâl ar hyn o bryd am gais unigol. Fodd bynnag, gellir codi tâl o £10 am fathodynnau newydd neu fathodynnau sefydliadol.
Meini prawf cymhwysedd
Gallwch fod yn gymwys yn awtomatig i gael Bathodyn Glas os ydych chi:
- yn cael elfen symudedd cyfradd uwch lwfans byw i’r anabl, nad yw’n lwfans gweini nac yn elfen ofal y lwfans byw i’r anabl
- yn cael Taliadau Annibyniaeth Personol (PIP) ac yn sgorio 12 pwynt am gynllunio a dilyn taith neu’n sgorio 8 pwynt am symud o gwmpas
- wedi’ch cofrestru’n ddall (Nam Difrifol ar y Golwg)
- yn cael atodiad symudedd pensiwn rhyfel
- wedi cal cyfandaliad budd-dal gan Gynllun Iawndal y Lluoedd Arfog a’r Lluoedd Wrth Gefn (o fewn lefelau tariff 1 i 8) ac wedi cael eich cadarnhau fel rhywun sydd ag anabledd parhaol a sylweddol sy’n eich atal rhag cerdded neu’n gwneud hynny’n anodd iawn
- yn cael tariff 6 ar Gynllun Iawndal y Lluoedd Arfog ar gyfer Anhwylder Meddyliol Parhaol
Os nad yw unigolyn yn gymwys yn awtomatig, efallai y bydd yn gymwys o hyd i gael Bathodyn Glas os yw dros ddwy oed, ac os yw’r canlynol yn berthnasol:
- mae ganddo anabledd parhaol a sylweddol sy’n golygu nad yw’n gallu cerdded neu mae cerdded yn anodd iawn iddo
- mae ganddo salwch angheuol sy’n cyfyngu ar ei allu i symud
- nid yw’n gallu cynllunio na dilyn unrhyw daith heb help gan rywun arall, a allai gynnwys pobl ag awtistiaeth, â chlefyd Alzheimer neu ddementia, sydd wedi goroesi strôc, ag anawsterau dysgu, ag anafiadau pen
- pobl sydd ag anabledd difrifol yn y ddwy fraich sy’n ei gwneud yn anodd iawn neu’n amhosibl gweithredu offer parcio fel peiriannau talu am barcio, a’u bod yn gyrru’n rheolaidd
Nid yw hon yn rhestr gynhwysfawr o’r cyflyrau perthnasol.
Hefyd, bydd plentyn dan dair oed yn gymwys os oes ganddo gyflwr meddygol sy’n golygu bod rhaid iddo wneud y canlynol bob amser:
- cario offer meddygol swmpus nad oes modd ei gario gyda’r plentyn yn ddidrafferth
- bod yn agos at gerbyd sydd â thriniaeth feddygol a all achub ei fywyd, neu fod posib mynd ag ef yn gyflym yn y cerbyd i rywle lle rhoddir triniaeth o’r fath
Nid ydych yn gymwys:
- os nad ydych chi’n bodloni’r meini prawf uchod
- os oes gennych chi anabledd dros dro sy’n annhebygol o bara o leiaf 12 mis ac nad yw’n sylweddol, fel coes wedi torri
- os mai dim ond pan fyddwch chi’n cario eitemau, fel wrth siopa, ydych chi’n cael problemau cerdded
- os nad yw eich cyflwr yn cyfyngu eich gallu i gerdded yn barhaus nac yn ddifrifol
Gwneud cais, ailymgeisio neu gael bathodyn newydd
Bydd angen i chi, neu rywun sydd ag atwrneiaeth drosoch, gytuno i’r datganiad.
Pan fyddwch yn gwneud cais, bydd angen i chi ddarparu’r canlynol:
- llun diweddar safon pasbort
- prawf o’ch cyfeiriad
- prawf o’ch budd-daliadau, os ydych chi’n cael rhai
- prawf o bwy ydych chi
- tystiolaeth ategol yn profi eich bod yn gymwys
- manylion unrhyw Fathodyn Glas cyfredol
- eich rhif Yswiriant Gwladol, os yn bosib
Hefyd, bydd rhaid i chi ddarparu tystiolaeth sy’n nodi manylion eich amgylchiadau. Gellir cyflwyno’r dystiolaeth ar-lein wrth gwblhau eich cais, neu gallwch ei hanfon drwy e-bost. Neu, gall perthynas i chi ddod â hi i’r swyddfa.
Bydd eich proses adnewyddu’n cael ei hystyried fel un awtomatig, yn ôl disgresiwn, neu wybyddol. Bydd ymgeiswyr dros dro sydd angen ailymgeisio’n cael cais yn ôl disgresiwn.
Efallai y byddwch yn gymwys i gael bathodyn glas dros dro am 12 mis os ydych chi’n gwella neu’n aros am driniaeth ar gyfer salwch neu anaf difrifol. Bydd eich anabledd dros dro ond yn sylweddol ac yn debygol o bara o leiaf 12 mis.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am fathodynnau dros dro yn y llyfryn ‘Pwy sy’n gymwys i gael bathodyn glas?’ ar wefan Llywodraeth Cymru.
Nid yw Bathodyn Glas yn drwydded i barcio yn unrhyw le. Os byddwch chi’n parcio lle byddai’n achosi rhwystr neu berygl i ddefnyddwyr eraill y ffordd, fe allech gael dirwy neu efallai y bydd eich cerbyd yn cael ei symud. Mewn llawer o leoliadau, ni chaniateir parcio dan unrhyw amgylchiadau. O ganlyniad, dylech wirio’r trefniadau lleol.
Am fwy o fanylion, darllenwch Llywodraeth Cymru ar hawliau a chyfrifoldebau deiliaid Bathodyn Glas. Byddwch wedi cael y ddogfen yma pan gawsoch eich Bathodyn Glas.
Gellir camddefnyddio bathodynnau glas mewn sawl ffordd. Mae’r rhestr ganlynol yn nodi troseddau o ddifrifoldeb amrywiol, ond nid yw’n rhestr gynhwysfawr.
Ni ddylai deiliad Bathodyn Glas wneud y canlynol:
- defnyddio Bathodyn Glas sydd â’r dyddiad arno wedi dod i ben
- defnyddio bathodyn y cofnodwyd ei fod wedi ei golli neu ei ladrata
- gadael i ffrind neu berthynas ddefnyddio’r Bathodyn Glas
- defnyddio copi o Fathodyn Glas
- addasu manylion y Bathodyn Glas, fel dyddiad dod i ben
- gwneud cais twyllodrus, fel rhoi gwybodaeth anghywir ar y ffurflen gais
- gwneud sawl cais defnyddio athodyn Glas a gafodd trwy dwyll
Ni ddylai trydydd parti wneud y canlynol:
- defnyddio Bathodyn Glas rhywun arall heb i ddeiliad y bathodyn fod yn y cerbyd trwy gydol y daith, o dan unrhyw amgylchiadau
- defnyddio Bathodyn Glas yn benodol er mwyn casglu presgripsiwn/siopa ac ati i rywun, heb i ddeiliad y bathodyn fod yn y cerbyd trwy gydol y daith
- defnyddio Bathodyn Glas rhywun sydd wedi marw
- copïo, addasu neu wneud Bathodynnau Glas
- defnyddio bathodyn wedi ei golli neu ei ladrata
- defnyddio Bathodyn Glas ffug
Os bydd deiliad bathodyn yn marw, dychwelwch y bathodyn atom yn y cyfeiriad isod, ynghyd ag atodi nodyn yn amlinellu'r rheswm dros y ffurflen: