Achosion sydd wedi cael eu trosglwyddo i feilïaid
Mae opsiynau ar gael i chi hyd yn oed os yw eich achos dirwy barcio wedi cael ei drosglwyddo i feili (Asiantau Gorfodi).
Os yw eich achos wedi cael ei drosglwyddo i feili, mae'n rhy hwyr i apelio ynghylch amgylchiadau'r tocyn.
Gallwch:
- dalu'r swm llawn i'r swyddog gorfodi (beili).
- gofyn i gael cynllun talu gyda'r beili (os byddwch yn methu taliad ar y cynllun talu, mae'n bosib y bydd angen ichi dalu costau ychwanegol).
- cysylltu â'r Ganolfan Gorfodaeth Traffig (TEC) ar 03001231059 a gofyn i gael rhoi datganiad tyst i geisio cael mwy o amser - yr unig adeg y cewch roi datganiad fel hyn yw pan nad yw'r drefn gywir wedi cael ei dilyn.
Cysylltu â'r Ganolfan Gorfodaeth Traffig (TEC)
Os ydych am ddewis opsiwn 3 a chysylltu â'r TEC, bydd ffurflen TE7 / TE9 yn cael ei hanfon atoch. Dim ond ar ôl ichi ddychwelyd y ffurflen hon at y TEC a rhoi gwybod am hyn i'r cyngor, bydd yr achos yn cael ei ohirio gyda'r asiant gorfodi nes bod y mater wedi'i ystyried.
Ar y ffurflen TE7 / TE9, mae'n rhaid ichi roi tic yn ymyl un o bedwar opsiwn i ddangos nad yw'r drefn wedi cael ei dilyn yn gywir. Os ydych yn cyflwyno ffurflen TE7 / TE9 i'r TEC, darparwch gymaint o wybodaeth a thystiolaeth â phosib ynghylch eich amgylchiadau, fel y gallant ystyried eich rhesymau.
Canlyniadau posibl
Mae dau ganlyniad posib pan fyddwch yn cyflwyno ffurflen TE7 / TE9. Bydd y TEC naill ai'n trosglwyddo'r achos yn ôl i'r beili i barhau i adennill yr arian sy'n ddyledus am y ddirwy barcio, neu'n trosglwyddo'r achos i'r cyngor, a bydd y cyngor yn delio'n uniongyrchol â chi.
Os nad ydych yn hapus ynglŷn â phenderfyniad y TEC ynghylch eich TE7 / TE9, mae gennych 14 diwrnod o'r dyddiad ar y llythyr gan y TEC atoch chi i ofyn i gael adolygiad o'ch achos gan farnwr rhanbarth. Codir tâl am adolygu achos.
Os na fyddwch yn gwneud dim ynghylch y mater, bydd costau ychwanegol yn ddyledus ac mae'n bosib y bydd eich cerbyd yn cael ei glampio a'i gludo i gompownd ceir neu nwyddau o'r un gwerth â'r ddyled yn cael eu casglu o'ch eiddo.