Adnewyddu neu wneud cais am drwydded barcio i breswylwyr
Mae trwyddedau parcio am ddim ar gyfer parthau trwydded presennol ac yn £20 ar gyfer pob cynllun newydd. Y nod yw galluogi i breswylwyr allu parcio ger eu heiddo.
Dyma beth fydd ei angen arnoch, pan yn adnewyddu neu yn gwneud cais am drwydded barcio i breswylwyr:
- Eich trwydded yrru - rhaid iddi ddangos eich enw a’ch cyfeiriad, a bod yn ddilys.
- Eich llyfr log V5 - rhaid iddo ddangos eich enw, rhif cofrestru’r cerbyd a’r cyfeiriad.
neu
Eich atodlen yswiriant neu dystysgrif yswiriant a llythyr eglurhaol - rhaid iddynt ddangos eich enw, eich cyfeiriad, rhif cofrestru’r cerbyd ynghyd â dyddiad dechrau a gorffen yr yswiriant.
- Eich trwydded yrru - rhaid iddi ddangos eich enw a’ch cyfeiriad, a bod yn ddilys.
- Llythyr gan eich cyflogwr ar bapur pennawd y cwmni - yn nodi y byddwch angen y cerbyd ar gyfer eich gwaith, ac y bydd y cerbyd wedi ei barcio dros nos yn eich cyfeiriad (rhaid cynnwys y cyfeiriad lle bydd y cerbyd wedi ei barcio dros nos yn y llythyr) a bod treth a MOT ar y cerbyd, a’i fod wedi ei yswirio gan y cwmni
neu
Eich atodlen yswiriant neu dystysgrif yswiriant a llythyr eglurhaol os nad yw’r cwmni yn yswirio’r cerbyd, a rhaid iddo ddangos eich enw, eich cyfeiriad, rhif cofrestru’r cerbyd a dyddiad
- Eich trwydded yrru - rhaid iddi ddangos eich enw a’ch cyfeiriad, a bod yn ddilys.
- Cytundeb y cwmni prydlesu - rhaid iddo ddangos y cyfeiriad a rhif cofrestru’r cerbyd.
- Eich atodlen yswiriant neu dystysgrif yswiriant a llythyr eglurhaol - rhaid iddynt ddangos eich cyfeiriad, rhif cofrestru’r cerbyd a dyddiad dechrau a gorffen yr yswiriant.
- Eich trwydded yrru - rhaid iddi ddangos eich enw a’ch cyfeiriad, a bod yn ddilys.
- Eich cytundeb Motability - rhaid iddo ddangos rhif cofrestru’r cerbyd, y cyfeiriad a gyrrwr y cerbyd.
- Eich atodlen yswiriant Motability - rhaid iddi ddangos rhif cofrestru’r cerbyd a dyddiad dechrau a gorffen yr yswiriant.
Adnewyddu neu wneud cais am drwydded barcio i breswylwyr
Gall ceisiadau gymryd hyd at 5 diwrnod gwaith i gael eu gwirio a'u prosesu. Hyd nes y byddwch yn derbyn eich trwydded ddigidol, ni fyddwch yn cael parcio mewn cilfach i breswylwyr.
Cyn gwneud cais, darllenwch y telerau ac amodau.
Os na allwch gyflwyno eich trwydded yrru neu lyfr log V5 oherwydd bod y cyfeiriad yn anghywir mae modd newid eich cyfeiriad ar lyfr log eich cerbyd (V5C) ar wefan Gov.uk.

Cysylltu
Os ydych yn cael unrhyw drafferth gwneud cais am drwydded ar-lein neu os oes gennych unrhyw ymholiadau, anfonwch e-bost at: