Amlosgfa Llangrallo

Coychurch Crematorium has been serving the bereaved since 1970. The original buildings were designed by the late Maxwell Fry, an architect of international acclaim.

Set in 16 hectares of land, the Grade II* listed building is regarded as one of the most important buildings of architectural note in the county borough with spectacular stained-glass windows designed by internationally recognised artists.

The crematorium has two air-conditioned chapels, Crallo and Coity Chapel. Both chapels provide pipe organs along with facilities for digital music, webcasts and visual tribute.

We aim to meet the needs of the bereaved with compassion, dignity and respect in a tranquil and sympathetic environment.

There is a variety of resting places and memorials available including the granite burial plots, scatter lawns, Columbaria vaults, bench dedications, tree dedications, vase blocks, wall tablets and book of remembrance. 

Booking a cremation service is done by the appointed funeral director.

They can make a provisional booking by phone, but this will not be finalised until the preliminary application for cremation form is received at the crematorium office.

Wrth ymweld â’r amlosgfa neu wrth ddefnyddio’i gwasanaethau, byddwch yn ystyriol o’r rheolau a’r canllawiau:

Coychurch Crematorium
Cyfeiriad: Amlosgfa Llangrallo, Llangrallo, CF35 6AB.
Ffôn: 01656 656605

Cofebion

Mae llawer o gofebion gwahanol ar gael yn Amlosgfa Llangrallo.

Bydd pecyn gwybodaeth yn cael ei anfon ar ôl amlosgiad. Mae gan hyn fanylion am bob opsiwn sydd ar gael o ran cofebion ac yn cynnwys y ffurflenni cais fydd eu hangen arnoch.

Mae Llyfr Cofio'n cael ei arddangos mewn cwpwrdd yn y Capel Cofio. Gall teuluoedd gofnodi atgof am eu hanwyliaid.

Mae lle i ysgrifennu ar bob diwrnod o’r flwyddyn a bydd y gyfrol ar agor bob dydd ar y dudalen briodol fel bod modd gweld nodiadau bob blwyddyn.

Os ydych am newid tudalen y llyfr, rhowch wybod i ni a byddwn yn gallu trefnu hyn. Sylwch mae’n bosibl y bydd y llyfr i ffwrdd yn cael ei ail-arysgrifio ar brydiau.

Mae’r arysgrifau yn cael eu gwneud â llaw, a gallent gynnwys dwy, pump neu wyth llinell. Pan fo nodyn dros bump neu wyth llinell o hyd, mae modd cynnwys arwyddlun personol megis bathodyn neu flodyn.

I gael rhagor o fanylion a chostau, cysylltwch â swyddfa'r amlosgfa.

Ffôn: 01656 656605

Mae’r lleiniau claddu’n cael eu gosod yn erbyn plinthau, ac mae modd atodi placiau coffa a ddarperir gan yr amlosgfa. Gall pob llain gladdu ffitio hyd at dri phlac y mae modd eu gwneud yn bersonol drwy arysgrifio.

Hefyd yng nghwrt canolog yr Ardd Goffa mae cromgelloedd Sanctum Columbaria.

Mae’r rhain uwchben y ddaear ac o dan y ddaear, ac yn ymgorffori tabled gwenithfaen y mae modd ei arysgrifio. Gofynnwch am gyngor gan staff yr amlosgfa pan fyddwch yn dewis eich arysgrif.

Rydym yn croesawu plethdorchau Nadoligaidd. Gallwch ddod o hyd i’r amodau am hyn ar hysbysfyrddau ym mhob adran goffa o 1 Rhagfyr bob blwyddyn. Ni ddylech roi plethdorchau ar lawntiau taenu yn yr Ardd Gofio. Bydd pob plethdorch Nadoligaidd yn cael ei dynnu ar ôl y 12ed noson.

Dim ond blodau wedi’u torri y mae'r Capel Cofio’n gallu eu derbyn. Dylech roi’r rhain yn y fasys a ddarperir yn yr amlosgfa.

Dim ond hyn a hyn o leoedd sydd ar gael ar gyfer meinciau cofio ar y tiroedd. 

Cysylltwch â staff yr amlosgfa i gael gwybod mwy am yr opsiwn hwn.

Ffôn: 01656 656605

Mae wedi'i leoli yn yr Ardd Goffa, ac mae'n lle tawel a heddychlon i chi gofio am eich anwyliaid.

Mae llechi wal a blociau fâs ar gael, a mae modd eu harysgrifio. Darperir fâs pwysi uwchben y plac ar bob bloc fâs fel y gall teuluoedd roi teyrnged flodau fechan.

Mae les ar gyfer y gofod wal neu’r bloc fâs am bymtheg mlynedd. Pan fydd y les yn dod i ben, mae modd ei adnewyddu am bymtheg mlynedd arall, neu fel arall, gellid dychwelyd y plac i’r teulu.

Perchennog y llain gladdu yw’r un sy'n ymgeisio am amlosgiad, oni bai bod gwybodaeth wahanol ar y ddogfennaeth amlosgi. Nid ydym yn gallu derbyn perchnogaeth ar y cyd, oherwydd gall hyn arwain at anawsterau o ran ail-agor yn y dyfodol.

Mae gardd rosod yr amlosgfa’n cynnwys dau wely rhosod sy’n benodol ar gyfer un ai babis marw-anedig neu fabis cynamserol. Caiff cyrff wedi’u hamlosgi eu rhoi yma ac mae cofeb fawr a chymunedol a llwyn rhosod er mwyn cofio pawb sy'n gorffwys yma.

Mae gan yr amlosgfa drefniant gydag Ysbyty Tywysoges Cymru, Pen-y-bont ar Ogwr ac Ysbyty Castell-nedd Port Talbot er mwyn amlosgi babis cynamserol mewn modd sensitif. Mae’r babis hyn wedi’u rhoi yng ngofal yr ysbyty gan eu rhieni a’u derbyn gan yr amlosgfa’n ddienw ac yn gyfrinachol. Ar ôl amlosgi, bydd lludw'r babi'n cael ei lledaenu ar diroedd yr Ardd Gofio. Bydd rhieni sy'n dewis y drefn hon angen cadw rhif adnabod cyfrinachol eu babi gan yr ysbyty. Golyga hyn y gallent dderbyn manylion am amlosgiad y babi a’i fan gorffwys.

Gellid rhoi blodau ffres yn y fasys a ddarperir gan y Capel Gofio.

Mae nifer o goed ar gael ar diroedd yr amlosgfa y mae modd eu cysegru.

Gallwch brynu plac llechen Gymraeg i’w arysgrifio gydag enwau eich anwyliaid, fydd yn cael ei osod ger eich coeden ddewisol.

Mae les ar gyfer y goeden gofio ar gyfer pymtheg mlynedd. Os nad ydych am adnewyddu’r les ar ôl pymtheg mlynedd, gallwch ail-hawlio’r plac.

Mae rheoliadau penodol sy’n ymwneud â lleoli blociau fâs yng nghloestrau'r capel ac o amgylch yr amlosgfa. Caiff y rhain eu harddangos lle bo’n briodol. Mae gan ofodau fâs les tair blynedd adnewyddadwy.

Chwilio A i Y

Back to top