Partneriaethau sifil

Mae cyplau un-rhyw wedi gallu bod mewn partneriaethau sifil ers mis Rhagfyr 2004.

Mae hyn yn rhoi cydnabyddiaeth gyfreithiol iddynt a’r un cyfrifoldebau a hawliau â chyplau priod, er enghraifft, o ran pensiynau, yswiriant bywyd ac etifeddiaeth.

Cymeradwyodd a lluniodd y Senedd Reoliadau Partneriaethau Sifil (Cyplau o Wahanol Ryw) 2019 ar 5 Tachwedd 2019. Mae’r rhain yn ymestyn cymhwysedd ar gyfer partneriaethau sifil i gyplau o wahanol ryw, a daethant i rym ar 2 Rhagfyr 2019.

Mae modd trosi partneriaethau sifil yn briodasau, ac ers mis Mawrth 2014 gall cyplau un-rhyw briodi hefyd.

Ffotograffau seremoni

Gallwch gofrestru un ai mewn swyddfa gofrestru neu mewn lleoliad trwyddedig. Gall fod yn syml iawn neu’n rhan o seremoni fwy llawn. Mae cyfnewid addunedau yn ddewisol, ond bydd angen i’r cwpl a dau o dystion arwyddo atodlen y bartneriaeth sifil.

Mae’n rhaid i gyplau sydd am fod yn bartneriaeth sifil fod dros 16 oed. Os ydynt o dan 18 oed mae’n rhaid iddynt gael cydsyniad eu rhieni neu warcheidwaid. Ni allent fod wedi priodi'n barod neu mewn partneriaeth sifil arall.

Trefnwch apwyntiad rhybudd o bartneriaeth sifil

Rhaid i gwpwl sy’n dymuno dod yn bartneriaid sifil roi ‘rhybudd’ i’r cofrestrydd yn yr ardal maent yn byw.

Bydd yn cymryd eich manylion ac yn eu harddangos yn ystafell aros y swyddfa gofrestru am 28 diwrnod.

Mae hwn yn ofyniad cyfreithiol a dim ond ar ôl hyn y gellir cofrestru partneriaeth sifil.

Pafiliwn y Grand
Tŷ Bryngarw

Lleoliadau

Dyma’r lleoliadau sydd wedi’u cymeradwyo ar gyfer priodasau sifil ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr:

Cyswllt

Cyfeiriad: Swyddfa Gofrestru Pen-y-bont ar Ogwr, Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 4WB
Ffôn: 01656 642391
Cyfeiriad ebost: registrar@bridgend.gov.uk
Oriau Agor 1: Dydd Llun hyd at Ddydd Gwener 9.30 hyd at 4pm

Chwilio A i Y

Back to top