Beth yw cam-drin domestig?
Os oes arnoch chi angen gadael y safle yma’n gyflym cliciwch yma. Bydd angen i chi ddileu eich hanes hefyd er mwyn cuddio’r hyn rydych wedi bod yn ei wneud.
Ffoniwch 999 bob amser mewn argyfwng.
Mae sawl ffurf o gam-drin domestig, ond mae’n ymwneud â chael pŵer a rheolaeth drosoch chi.
Dyma sy’n ymwneud â cham-drin domestig:
- Galw enwau, eich bygwth a’ch defnyddio, rhoi bai arnoch chi am y gam-driniaeth neu chwarae triciau meddyliol gyda chi.
- Rheoli eich mynediad at arian neu adnoddau - tynnu eich cyflog i ffwrdd neu ei reoli, eich atal rhag gweithio, neu eich rhoi mewn dyled.
- Nid oes rhaid iddo fod yn gorfforol - gall fod yn ddylanwadu arnoch neu eich gorfodi i wneud pethau nad ydych eisiau eu gwneud.
- Pan mae camdriniwr yn dangos patrwm ymddygiad dros amser i weithredu pŵer a rheolaeth. Mae'n drosedd.
- Nid taro yn unig - eich atal neu daflu gwrthrychau.
- Anfon negeseuon ymosodol, mynnu cael mynediad i’ch dyfeisiadau, eich dilyn gyda deunydd ysbïo neu rannu lluniau ohonoch ar-lein.
Nid yw cam-drin domestig fyth yn fai’r unigolyn sy’n ei brofi.
Nid oes rhaid i chi aros am sefyllfa argyfwng i gael help.
Mae Gwasanaeth Cam-drin Domestig Assia yma i gefnogi unrhyw un sy’n cael ei effeithio gan gam-drin domestig ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. P’un a yw’r gefnogaeth yn uniongyrchol neu os ydych yn poeni am berthynas neu ffrind.
Rydym yn cynnal siop un-stop gyfrinachol o wasanaethau cam-drin domestig i bobl o bob cefndir.
Cael mynediad at gymorth
Nid ydych ar eich pen eich hun, mae gan bawb yr hawl i fod yn ddiogel a byw heb ofn.
Gallwch gysylltu ag Assia, o ddydd Llun i ddydd Gwener 8.30am tan 5:00pm: