Gwasanaeth Cam-drin Domestig Assia
Os oes arnoch chi angen gadael y safle yma’n gyflym cliciwch yma. Bydd angen i chi ddileu eich hanes hefyd er mwyn cuddio’r hyn rydych wedi bod yn ei wneud.
Ffoniwch 999 bob amser mewn argyfwng.
Mae Gwasanaeth Cam-drin Domestig Assia yma i gefnogi unrhyw un sy'n cael ei effeithio gan Gam-drin Domestig ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Gall gynnig help os yw hyn yn digwydd yn uniongyrchol i chi neu os ydych yn poeni am berthynas neu ffrind.
Rydym yn cynnal siop un stop gyfrinachol ar gyfer gwasanaeth cam-drin domestig i bobl o bob cefndir.
Mae ein tîm cyfeillgar a phrofiadol yma i gynnig cymorth emosiynol ac ymarferol i chi. Gallwch gael y canlynol:
- cyngor ac arweiniad
- lloches
- asesiad risg fel bod arbenigwyr yn gallu teilwra cymorth i chi a'ch teulu
- cynllunio diogelwch
Dyma'r llwybr hefyd i gael cymorth i blant sydd wedi profi cam-drin domestig. Yn fwy na hynny, mae'r gwasanaeth yn gyfrinachol ac felly nid oes raid i chi roi eich enw.
Cael mynediad at gymorth
Dydych chi ddim ar eich pen eich hun, mae gan bawb hawl i fod yn ddiogel a byw heb ofn.
Gallwch gysylltu ag Assia, o ddydd Llun i ddydd Gwener 8.30am tan 5:00pm: