Pwy all fod yn Ofalwr Rhannu Bywydau?
Mae Rhannu Bywydau yn recriwtio gofalwyr o bob cefndir. Rydym yn croesawu pobl o bob oed a chefndir, pobl sengl, cyplau a theuluoedd gyda phlant neu heb blant.
Nid oes angen unrhyw gymwysterau ffurfiol arnoch oherwydd byddwn yn darparu’r holl hyfforddiant fydd ei angen arnoch.
Gofynnwn i ofalwyr fod yn hollol agored am eu bywydau, eu cefndir a’u profiadau.
Byddwn yn cynnal amrywiaeth o wiriadau ac yn gofyn am eirdaon proffesiynol a phersonol.
Am ragor o wybodaeth ac i gofrestru’ch diddordeb, ewch i: