Gwasanaeth Therapi Galwedigaethol

Mae Therapi Galwedigaethol yn ffordd ymarferol o gynorthwyo adferiad a goresgyn rhwystrau sy’n atal gweithgareddau neu alwedigaethau.

Gall y gweithgareddau hyn gynnwys dyletswyddau hanfodol o ddydd i ddydd fel hunan-ofal, gwaith neu hamdden.

Gall y gwasanaeth wneud byd o wahaniaeth drwy roi ymdeimlad newydd o bwrpas i bobl, agor gorwelion newydd a newid eu teimladau am y dyfodol. Mae’n rhoi hwb i annibyniaeth a boddhad ym mhob maes mewn bywyd.

Bydd ein therapyddion galwedigaethol yn ystyried holl anghenion unigolyn, boed gorfforol, seicolegol, cymdeithasol neu amgylcheddol. Ar ôl asesiad, mae ein gwasanaeth Therapi Galwedigaethol yn benthyca offer i helpu pobl i fyw yn annibynnol gartref neu i helpu gofalwyr.

Mae offer ar gael ar gyfer y canlynol:

  • mynd i’r bath
  • gwisgo
  • diogelwch yn y cartref
  • trin maniwal
  • darparu gofal yn y cartref
  • seddau arbenigol
  • mynd i’r toiled

Mae’r holl offer naill ai’n gwbl newydd neu’n cael ei adnewyddu yn llwyr wrth ei roi. Mae’n cael ei archwilio’n rheolaidd am gynnal a chadw gan staff cymwys tra mae ar fenthyciad.

Gallwn hefyd drefnu addasiadau bach, a darparu cyngor a llwybrau cyllido ar gyfer newidiadau mwy.

Cymhwystra

Mae ein therapyddion galwedigaethol yn gweithio gydag oedolion gydag amrywiaeth eang o gyflyrau. Yn fwyaf cyffredin, y rhain yw salwch meddwl, anabledd corfforol neu anabledd dysgu. Mae rhywun yn addas i gael yr offer os yw:

  • ag anabledd sy’n lleihau ei allu i weithredu; ac
  • yn byw ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Efallai y bydd pobl gymwys yn gallu cael offer ar ôl i Therapydd Galwedigaethol Cymunedol eu hasesu. Yn gyffredinol, mae offer yn cael ei roi i ddiwallu anghenion hanfodol yn unig, ac efallai y cewch eich cynghori i wneud eich trefniadau eich hun ar gyfer rhai eitemau.

Cost

Mae’r gwasanaeth am ddim. Ni chodir ffi am yr eitemau a gyflenwir a hefyd, mae cynnal a chadw offer am ddim.

Fodd bynnag, benthyca yr offer a wneir, ac mae’n bwysig dychwelyd offer nad yw’n cael ei ddefnyddio er mwyn gallu ei roi i eraill sydd mewn angen.

Gwneud cais am asesiad

I wneud cais am asesiad neu am ragor o wybodaeth, cysylltwch â:

Cyfeiriad: Tîm Adnoddau Cymunedol, Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Y Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 4WB.
Ffôn: 01656 642279
Ffacs: 01656 724457
Cyfnewid testun: 18001 01656 642279
Oriau Agor 1: Dydd Llun i Iau: 8:30am - 5pm
Oriau Agor 2: Dydd Gwener: 8:30am - 4:30pm

Fel rheol, rydym yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn saith diwrnod gwaith i gynnal asesiad y Therapydd Galwedigaethol. Gellir dosbarthu eitemau sydd eu hangen ar frys yn gyflymach. Bydd dosbarthu eitemau nad ydynt mewn stoc yn cymryd mwy o amser a bydd yn dibynnu ar y cyflenwyr.

Chwilio A i Y

Back to top