Amserlen torri glaswellt
Rydym yn gyfrifol am dorri gwair ar dir sy’n perthyn i Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Rydym yn torri glaswellt rhwng mis Ebrill a mis Hydref.
Rydym yn gyfrifol am dorri gwair ar:
- lleiniau canol
- ymylon priffyrdd
- parciau a chaeau chwaraeon
- mannau agored cyhoeddus
- meysydd chwarae dan berchnogaeth y cyngor (nid yw’r holl gaeau chwarae yn y Fwrdeistref yn perthyn i ni)
Nid ydym yn torri gwair:
- ar eiddo neu ystadau sy’n berchen i gyrff ar wahân i’r cyngor, er enghraifft Cynghorau Cymuned neu Gymdeithasau Tai
- eiddo preifat
Noder: Mae sefydliadau eraill fel Cynghorau Cymuned a Chymdeithasau Tai hefyd yn torri gwair mewn mannau cyhoeddus o fewn y fwrdeistref sirol.
Bioamrywiaeth
Fel cyngor, mae angen i ni gydbwyso bioamrywiaeth gyda materion fel gofynion diogelwch y briffordd, mae gofyn i ni dorri’r gwair mewn lleoliadau penodol o hyd er mwyn sicrhau nad ydynt yn rhwystro gyrwyr rhag gweld yn glir, neu er mwyn sicrhau bod llwybrau cerdded yn parhau’n hygyrch.
Rydym yn cynnal mannau agored a phriffyrdd er budd blodau gwyllt ac rydym wedi cyfyngu ar ein trefniadau torri gwair blynyddol yn sylweddol er mwyn mynd ati’n weithredol i reoli ein tir a hyrwyddo amrywiaeth ecolegol a blodeuol cymaint â phosibl.
