Canol Trefi
Beth am ymweld â’ch canol tref agosaf a helpu i gefnogi busnesau lleol.
Gyda chymysgedd o siopau annibynnol ym Mhen-y-bont ar Ogwr a Maesteg, dyma’r lle delfrydol i gasglu unrhyw anrhegion funud olaf.

Canol tref Pen-y-bont ar Ogwr
Mae gan Ben-y-bont ar Ogwr, sy'n dref farchnad ers yr 16eg ganrif, gymysgedd fywiog o siopau annibynnol, caffis ac enwau'r stryd fawr. Yn y Farchnad Dan Do draddodiadol byddwch yn dod o hyd i fusnesau teuluol hirsefydlog a masnachwyr newydd.

Canol tref Maesteg
Mae'r profiad siopa fan hyn yn un cyfeillgar. Profwch yr ymdeimlad cryf o gymuned yng nghanol y dref, sy'n gartref i frandiau'r stryd fawr, siopau annibynnol a marchnad awyr agored sy'n clystyru o amgylch sgwâr marchnad newydd.

Canol tref Porthcawl
Yn union y tu ôl i'r Esplanade ar lan y môr, byddwch yn dod o hyd i amrywiaeth gyffrous o siopau a chaffis annibynnol, ynghyd â brandiau'r stryd fawr.
Fwytai ‘Cyrchfan’
Mae canol tref Pen-y-bont ar Ogwr yn gartref i nifer o fwytai ‘cyrchfan’ annibynnol, sy’n cynnig bwydydd rhyngwladol lu:
- Zia Nina
- Colosseo
- Corvo Lounge
- Tholos
- La Cocina
- Morgans
- Poco Poco
- Marble
- Franco's IL Vecchio