Canolfan Chwaraeon Dŵr Rest Bay
Ewch ati i feistroli chwaraeon dŵr gyda gwersi arbenigol yn Rest Bay!
Mae’r ganolfan yn cynnig llogi byrddau syrffio a dosbarthiadau drwy gydol y flwyddyn yn Ysgol Syrffio lwyddiannus Porthcawl, yn ogystal â hyfforddiant rhwyf-fyrddio ar eich traed.
Hefyd gallwch astudio i fod yn achubwr bywyd neu hyfforddwr syrffio yma.
Mae’r ganolfan yn edrych dros ddyfroedd hardd a glân Rest Bay, traeth baner las, ac mae Porthcawl yn un o’r cyrchfannau syrffio sy’n tyfu gyflymaf ym Mhrydain.
Efallai mai’r rheswm am hyn yw ei fod yn lleoliad hwylus dair awr o Lundain. Mae hynny’n golygu mai dyma’r cyrchfan chwaraeon dŵr agosaf a mwyaf cyson i brifddinas y DU, ac mae lai nag awr o Gaerdydd. Yn wir, y ganolfan fodern yma yw cartref Clwb Syrffio Arfordir Cymru.
Mae llawer mwy o bethau diddorol i’w gweld a’u gwneud yma.
Mae teithiau beicio ar gael i lefydd o ddiddordeb yn ardal Porthcawl a Newton, yn ogystal â thaith yn seiliedig ar gewri twyni Cynffig.
Mae cyrsiau ar gyfer addysg amgylcheddol a deall cefnforoedd, a dysgu awyr agored.
Hefyd, os ydych chi’n awyddus i helpu’r amgylchedd, mae’r ganolfan yn lleoliad ar gyfer digwyddiadau glanhau traethau.
Cyfleusterau
- Storfa beiciau pob tywydd
- Caffi/bistro
- Ciwbyclau newid
- Cawodydd allanol
- Ystafell digwyddiadau
- Ciosg hufen iâ a phaned
- Loceri diogel ar gyfer offer
- Toiledau
- Gwybodaeth i dwristiaid

Ysgol Syrffio Porthcawl
Dysgwch sut i syrffio yn Ysgol Syrffio Porthcawl ar arfordir De Cymru. Maent yn cynnig gwersi syrffio a chyrsiau gwella drwy’r flwyddyn, o’u safle yng Nghanolfan Chwaraeon Dŵr Rest Bay, sy’n edrych dros Draeth Baner Las Bae Rest.

Rest Bay Café Bar
Mwynhewch olygfa banoramig o arfordir prydferth Bae Rest, gydag amrywiaeth o ddiodydd poeth ac oer.

Beach Academy Wales
Gall teuluoedd sy'n ymweld â Rest Bay archebu gwersi i deuluoedd ymlaen llaw a chymryd rhan mewn gweithdai dosbarth grŵp o Archwilio Pyllau Creigiog i grefftau Traeth, gyda phob un ar gael i'w harchebu ymlaen llaw drwy Beach Academy Wales.
Cafwyd cyfraniad o £1.5m o gyllid yr UE i wneud y ganolfan hon yn bosib. Hefyd dewiswyd y prosiect gan Raglen Cyrchfannau Denu Twristiaid Llywodraeth Cymru, rhaglen gwerth £61.9m a lansiwyd gan Croeso Cymru. Nod y rhaglen hon yw creu tri ar ddeg o gyrchfannau twristaidd y mae’n rhaid eu gweld gyda chyfanswm o £27.7m o gyllid yr UE.