Hawliau Tramwy Cyhoeddus
Mae Hawliau Tramwy Cyhoeddus yn rhoi hawl mynediad i aelodau o’r cyhoedd dros dir dan berchnogaeth breifat, gan roi mynediad iddynt at ardal wledig y gallant ei mwynhau.
Rhennir cyfrifoldeb am lwybrau yng nghefn gwlad rhwng tirfeddianwyr a’r cyngor, ond mae defnydd cyfrifol o gefn gwlad gan y cyhoedd yr un mor bwysig.
Ceir gwybodaeth i ddefnyddwyr yn y Codau Cefn Gwlad.

Hawlio, ailraddio neu ddileu hawl dramwy
Defnyddir Gorchymyn Addasu Mapiau Diffiniol i hawlio, ailraddio neu ddileu hawl dramwy. Gall unrhyw un wneud cais amdano, ac mae’r hawliadau’n seiliedig ar naill ai dystiolaeth ddogfennol neu brawf o ddefnydd.

Map Swyddogol Hawliau Tramwy Cyhoeddus
Edrychwch ar lwybrau a chyrchfannau'r llwybrau o fewn y fwrdeistref sirol ar y Map Swyddogol Hawliau Tramwy Cyhoeddus.

Llwybr Mawr Morgannwg
Yn rhychwantu ar draws pum sir yn Ne Cymru, mae Llwybr Mawr Morgannwg yn rhwydwaith anhygoel o lwybrau beic a cheffylau cysylltiedig sy’n cynnwys yr holl sy’n gwneud siroedd Caerdydd, Bro Morgannwg, Pen-y-bont ar Ogwr, Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful yn lleoedd gwych.

Cofrestr i chwilio’r gorchmynion addasu mapiau diffiniol
Gorchymyn Addasu Mapiau Diffiniol (DMMO) yw’r ffordd y caiff hawliau tramwy eu hawlio, eu hail-raddio neu eu dileu.