Lleoliad: Heol y Traeth, Porthcawl, CF36 5NE
Y traeth hwn yw’r un mwyaf dwyreiniol, a dim ond deg munud o bellter cerdded o bentref hardd Newton.
Mae’n dywodlyd, yn greigiog, ac yn boblogaidd gyda syrffwyr gwynt, sgiwyr jet yn ogystal â defnyddwyr cychod pŵer.
Mae milltiroedd o dywod yno, er ei fod yn greigiog iawn mewn rhannau. Mae modd cerdded drwy Dwyni Newton Burrows i geg Afon Ogwr. Mae’r traeth ei hun yn agos at dwyni Merthyr Mawr, yr ail fwyaf yn Ewrop. Mae llawer o bobl chwaraeon yng Nghymru yn hyfforddi ar un twyn tywod yn arbennig, a gaiff ei adnabod yn lleol fel ‘The Big Dipper’, ac mae ymwelwyr yn aml yn sledio arno.
-
Achubwyr bywyd ar ddyletswydd: Mae achubwyr bywyd gwirfoddol ar ddyletswydd ar adegau penodol. Fodd bynnag os nad oes baner, nid oes patrôl.
-
Cyfleusterau a siopau: Mae llithrfa, y mae’r clwb cychod lleol yn ei defnyddio. Fel arall nid oes cyfleusterau na siopau, ond mae Parc Gwyliau Bae Trecco ychydig o funudau o bellter cerdded ac yn cynnig amrywiaeth o luniaeth ac adloniant.
-
Addas i blant: Nid oes cyfleusterau i blant ar y traeth. Fodd bynnag, mae gan Barc Gwyliau Bae Trecco arcêd, golff bach, pwll nofio, parc Jungle Jim’s, ac amrywiaeth o beiriannau chwarae i ddiddanu’r plant.
-
Toiledau: Mae’r toiledau agosaf ym Mharc Gwyliau Bae Trecco.
-
Parcio: Mae maes parcio talu ac arddangos.
-
Trafnidiaeth gyhoeddus: Mae’r traeth ddeg munud o bellter cerdded o bentref Newton, y gellir ei gyrraedd yn hawdd gyda gwasanaethau bws i Borthcawl neu yn ôl. Mae First Bus yn rhedeg gwasanaethau uniongyrchol amrywiol o Ben-y-bont, Caerdydd (X2) ac Abertawe. I gyrraedd y traeth, dewch oddi ar y bws ym modurdy Globe Garage, ac ewch i wefan Traveline Cymru i gynllunio taith.
- Caniateir cŵn ar y traeth, ond casglwch wastraff eich ci a chael gwared arno.