Natur a’r Amgylchedd
Mae gan Fwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr amrywiaeth eang o fywyd gwyllt ac mae'n gartref i lawer o rywogaethau prin sy'n dirywio.
Gyda choetiroedd hynafol, dyffrynnoedd afonydd, twyni tywod arfordirol, tir ffermydd, tiroedd comin a llawer o fannau gwyrdd eraill ledled y sir, mae digon o fywyd gwyllt i’w ddarganfod gan bawb.
Mae llawer o'n mannau gwyrdd yn cael eu rheoli er budd bywyd gwyllt yn ogystal ag i bobl. Mae rhai ardaloedd, fel gwarchodfeydd natur, wedi cael eu dynodi’n benodol oherwydd eu gwerth i fioamrywiaeth.

Cynllun Dyletswydd Bioamrywiaeth
Mae'r Cynllun newydd hwn, Cynllun Dyletswydd Bioamrywiaeth Pen-y-bont ar Ogwr, 2022-25, yn nodi'r camau y bydd y Cyngor yn eu cymryd am y tair blynedd nesaf.
Mae'n cael ei lywio gan argymhellion yr Adroddiad Cynnydd, a dynnodd sylw at gryfderau i adeiladu arnynt, a meysydd ar gyfer gwella'r ddarpariaeth.

Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Lleol
Mae'r Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Lleol (LBAP) yn ystyried y rôl ehangach mae bioamrywiaeth yn ei chwarae wrth ddarparu buddion i Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Mae bioamrywiaeth Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cyflenwi cyfoeth o wahanol fuddion amgylcheddol. Mae'r rhyngweithiad rhwng bioamrywiaeth a gwasanaethau’r ecosystem yn cael ei archwilio yn y Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Lleol.

Ynni a Dadgarboneiddio
Gwybodaeth am ynni a dadgarboneiddio gan gynnwys cynlluniau gwresogi, effeithlonrwydd ynni a chymunedau carbon isel.