Comin Locks

Yn 30 hectar o dir garw, cymharol wastad, mae Comin Locks yn dechrau lle oedd promenâd gwreiddiol Porthcawl yn dod i ben ac mae’n ymestyn i draeth Rest Bay. 

Mae’r warchodfa amrywiol hon yn gartref i amrywiaeth enfawr o adar, glöynnod byw a blodau gwyllt.

Mae Comin Locks yn lle perffaith i gerdded gyda golygfeydd panoramig o Rest Bay a Môr Hafren. Ar ddiwrnod clir, mae arfordir Dyfnaint a Bae Abertawe i’w gweld yn y pellter.

Mae nifer o lwybrau cerdded yn croesi’r warchodfa. Mae ardaloedd sylweddol o balmant calchfaen, ond gan ei fod yn anwastad, gall fod yn anodd i gadeiriau olwyn a phramiau. Yn gyffredinol, gall llwybrau cerdded dros ardaloedd naturiol fod yn fwdlyd ac yn anwastad mewn rhannau.

Mae palmant calchfaen y safle wedi’i wasgaru dros ddwy hectar. Dyma nodwedd anarferol yng ngwarchodfeydd natur Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. 

Mae’r nodwedd galchfaen bwysig hon yn golygu fod Comin Lock yn Safle Daearegol Pwysig Rhanbarthol (RIGS), yn ogystal â bod yn Warchodfa Natur Leol.

Rhywogaethau o blanhigion:

  • Pys-y-ceirw
  • Effros
  • Grug
  • Corn-carw’r môr
  • Bwrned
  • Seren y gwanwyn
  • Mandon fach

Rhywogaethau o anifeiliaid:

  • Titw tomos las
  • Llwynog
  • Llamhidydd yr harbwr
  • Cudyll
  • Gwylanod cefnddu lleiaf
  • Robin goch
  • Corhedydd y graig
  • Ehedydd
  • Clochdar y cerrig - Mae’r adar bach yma’n ysgwyd eu hadenydd pan maent yn clwydo ac yn aml maent i’w gweld ar lwyni isel. Fel mae’r enw’n awgrymu, mae eu cri fain swnllyd iawn yn swnio fel dwy garreg yn taro yn erbyn ei gilydd.

Mae gan Gomin Locks hanes maith o bori gan ddefaid a gwartheg.

Hefyd mae wedi cael ei ddefnyddio ar gyfer hyfforddiant milwrol a chyn y rhyfel byd cyntaf, roedd yn gwrs golff.

Mae’r warchodfa yn dechrau ym mhromenâd Porthcawl, a adeiladwyd yn 1887 i ddathlu blwyddyn jiwbilî y Frenhines Victoria.

Locks Common
Cyfeiriad: Comin Locks, Mallard Way, Porthcawl, CF36 3HU

Sicrheir mynediad o ben y promenâd yn nhref Porthcawl neu o Rest Bay i’r gorllewin o’r dref.

Mae meysydd parcio cyhoeddus yng nghanol tref Porthcawl ac mae llefydd parcio ar gael yn ardal Rest Bay.

Chwilio A i Y

Back to top