Gwarchodfa Natur Cynffig
Gwarchodfa Natur Cynffig yw un o’r safleoedd cadwraeth pwysicaf i fywyd gwyllt yn y DU.
Mae’n un o brif gronfeydd twyni tywod Cymru, gyda phlanhigion fel tegeirian y fign galchog, adar a thrychfilod yn dibynnu ar y cynefin hwn i oroesi.
Mae pwll naturiol mwyaf Morgannwg, Pwll Cynffig, wedi’i leoli ar ymyl y warchodfa gyda golygfeydd godidog ar draws Bae Abertawe i ‘r Gŵyr.
Rheolir Gwarchodfa Natur Cynffig gan Kenfig Corporation Trust.
Mae’r warchodfa yn hoff noddfa i adar drwy gydol y flwyddyn.
Mae’n un o’r ychydig leoedd yn y DU lle gellir gweld aderyn y bwn yn ystod y gaeaf.
Mae Gwarchodfa Natur Genedlaethol Cynffig yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig dynodedig.
Rheolir yr ardal i sicrhau nad yw’r twyni’n cael eu gorchuddio gan laswelltir trwchus a choetir prysg, gan achosi colli bywyd gwyllt amrywiol a phwysig.
Mae’r warchodfa yn weddillion o system barhaus enfawr o dwyni a arferai ymestyn o aber Ogwr i Benrhyn Gŵyr.

Ceidwad Ogwr
‘Ceidwaid Natur’ yw un o’n cerfluniau derw ‘Ceidwad Ogwr’. Maent yn ychwanegu diddordeb at ein mannau prydferth a chyda’r cerddi sy’n cyd-fynd â nhw, maent yn dal dychymyg yr ymwelwyr iau trwy blethu chwedloniaeth yn y safleoedd.
Y nod yw tanio cysylltiad emosiynol â’n man gwyrdd, ac felly annog pobl i ymweld, yn ogystal â chymryd mwy o ofal ohonynt.