Gwarchodfa Natur Leol Coed Tremaen

Mae Coed Tremaen yn goetir llydanddail cymysg tir isel yng nghanol Bracla.

Yn ardal o goetir hynafol, lled-naturiol, mae Coed Tremaen wedi’i rhestru yn ‘Rhestr Dros Dro Morgannwg o Goetiroedd Hynafol’ (Y Cyngor Cadwraeth Natur, Rhagfyr 1986).

Mae llwybrau drwy’r coetir y gellir eu defnyddio drwy gydol y flwyddyn. Mae arwyddbyst ar y llwybrau gyda ‘saethau robin goch’ a chyfres o banelau gwybodaeth i’ch helpu chi i adnabod y rhywogaethau o goed, blodau a bywyd gwyllt.

Rhywogaethau o blanhigion a ffyngau:

  • Ynn
  • Drain duon
  • Clychau’r gog
  • Llwyni mwyar duon
  • Pidyn y gog
  • Bresych-y-cŵn
  • Llwyfenni
  • Llysiau Steffan
  • Rhedyn
  • Masarn bach
  • Eurinllys blewog
  • Tafod yr hydd
  • Drain gwynion
  • Cyll
  • Eiddew
  • Peli du
  • Erwain
  • Eglyn cyferbynddail
  • Briallu
  • Blodau anghyfagos
  • Derw digoes
  • Sycamorwydd
  • Blodau’r gwynt
  • Marddanadl melyn

Rhywogaethau o anifeiliaid:

  • Titw tomos las
  • Siff saff
  • Broga
  • Madfall
  • Telor y cnau
  • Ystlum lleiaf
  • Robin goch
  • Llygoden y coed

Mae’r hen fapiau Arolwg Ordnans (OS) yn dangos bod y coetir presennol wedi bod yn rhannol goediog o leiaf ers 1799. Erbyn 1875, roedd y coetir yn cael ei farcio ar fapiau OS fel ‘Tre-Maen Wood’.

Mae’r map hwn hefyd yn dangos trac drwy gornel dde orllewinol y coed sy’n cysylltu i drac arall ar ymyl orllewinol bellaf y coetir presennol.

I’r de, mae’r trac yma’n arwain i hen chwarel ac odyn galch yn Nhremaen isaf. Mae’n bosib bod y trac yn cael ei ddefnyddio i fynd â choed o’r goedwig i gael eu defnyddio fel tanwydd ar gyfer yr odyn galch.

Hefyd yn rhan ddeheuol Coed Tremaen, ger un o’r pontydd, fe welwch chi weddillion hen wal garreg, a beth sy’n ymddangos fel hen lifddor. Mae’n debygol bod o leiaf rai o’r hen gloddiau terfyn yn y coed wedi cael eu defnyddio unwaith i gau anifeiliaid pori i mewn, fel moch a geifr.

Yn wir, efallai y gwelwch chi sawl hen glawdd yn y coed. Efallai bod y rhain wedi bod yn rhan o ffin y coetir hynafol.

Cyfeiriad: Oak Tree Court, Bracla, Pen-y-bont, CF31 2NL

Cymerwch y llwybr ar eich llaw dde o Oak Tree Court wrth i chi gyrraedd Ysgol Uwchradd Gatholig yr Archesgob McGrath.

Mae maes parcio cyhoeddus ar gael yng Nghanolfan Siopa Triongl Bracla.

Ceidwad y Coed

Mae’r ‘Ceidwad y Coed’ yn un o’n cerfluniau derw ‘Ceidwaid Natur’. Maent yn ychwanegu diddordeb at ein llecynnau harddwch a gyda’r cerddi sy’n cyd-fynd, maent yn dal dychymyg yr ymwelwyr iau drwy ryngblethu mytholeg yn y safleoedd.

Y nod yw tanio cyswllt emosiynol â’n gofod gwyrdd ni, ac felly annog pobl i ymweld, yn ogystal â gofalu mwy amdanynt.

Chwilio A i Y

Back to top