Gwarchodfa Natur Leol Craig-y-Parcau
Yn fwy na thri phwynt dau hectar, coetir derw ac onnen yw Craig-y-Parcau, ar lethr serth o’r Afon Ogwr.
Mae’n hafan i fywyd gwyllt, gyda nifer o lwybrau cerdded.Cadwch lygad am y ’cyfeirbwyntiau robin’ a fydd yn helpu i’ch tywys o amgylch.
Mae taith gerdded gylchol, tua thri chwarter milltir o hyd. Mae rhannau ohono’n eithaf gwastad, ond mae angen i chi ddefnyddio grisiau. Mae rhannau o’r llwybr yn fwdlyd ac yn anwastad.
Mae’r llwybr uchaf drwy’r goedwig yn rhan o daith gerdded gylchol yr Afon Ogwr a Merthyr Mawr, y gallech barhau arni.
Rhywogaethau planhigion:
- Onnen
- Clychau’r gog
- Rhedyn Tafod yr Hydd
- Y goesgoch
- Llygad Ebrill
- Derwen ddi-goes
- Blodau’r gwynt
- Suran y coed
- Marddanhadlen felen
Rhywogaethau anifeiliaid:
- Titw Tomos Las
- Dryw felen
- Ystlum y dŵr
- Cnocell werdd
- Glas y Dorlan
- Robin
- Dringwyr bach
- Telor helyg
- Dyfrgi - Cadwch lygad am eu baw olewog sydd fel arfer ar garreg amlwg ger glan yr afon, lle maent yn debygol o nythu.
Mae’r goedwig yn agos at y ‘Garreg Ddawnsio’.
Yn ôl y chwedl, pan fydd y ceiliog yn clochdar ar ddiwrnod Nadolig, mae'r garreg hynafol yn dawnsio i lawr at yr afon i gael ei golchi.
Ceidwad Ogwr
Un o’n cerfluniau ‘Ceidwaid Natur’ yw ‘Ceidwad Ogwr’.
Maent yn ychwanegu diddordeb at ein mannau harddwch, ac ynghyd â’r farddoniaeth sy’n cyd-fynd, maent yn dal dychymyg ymwelwyr iau drwy blethu mytholeg i’r safleoedd.
Eu nod yw sbarduno cysylltiad emosiynol â’n mannau gwyrdd, ac o ganlyniad, annog pobl i ymweld, yn ogystal â bod yn fwy ystyrlon ohonynt.
Gwirfoddoli neu drefnu trip ysgol yma
Os ydych chi eisiau cefnogi’r safle yma, trefnu ymweliad addysgol, neu wirfoddoli yng nghefn gwlad yn gyffredinol, cysylltwch â ni: