Gwarchodfa Natur Leol Frog Pond Wood

Mae Frog Pond Wood yn em gudd. Mae’n grêt ar gyfer teithiau cerdded byr a byddwch yn teimlo eich bod yng nghalon cefn gwlad Cymru er bod stad ddiwydiannol tu cefn i chi.

Mae’r coed yn goetir derw/ynn cymysg yn bennaf, gyda phwll a rhywfaint o ardaloedd o dir gwlyb.

Mae parcio am ddim cyfyngedig yng Nghanolfan Fenter y Pîl a maes parcio cyhoeddus tu ôl i’r feddygfa ar Stryd y Bont ym Mynydd Cynffig.

Rhywogaethau o blanhigion:

  • Ynn
  • Llafnlys mawr
  • Rhedyn tafod yr hydd
  • Cyll
  • Derw digoes

Rhywogaethau o anifeiliaid:

  • Picellwr praff
  • Broga
  • Mursen
  • Gwas y neidr
  • Titw mawr
  • Iâr ddŵr
  • Telor y cnau
  • Ystlum lleiaf
  • Llygoden y coed

Mae gan y goedwig gysylltiad rhyfeddol â’n gorffennol diwydiannol. Cadwch lygad am y llwybr hir syth ar hyd ymyl ddwyreiniol y warchodfa, a arferai fod yn llwybr tram ceffylau ar un adeg.

Agorodd y dramffordd, sy’n cael ei hadnabod fel Rheilffordd Dyffryn Llynfi a Phorthcawl, yn 1828 fel ffordd i dram ceffylau. Roedd yn cludo haearn a glo Dyffryn Llynfi i’r arfordir. Roedd y doc newydd a agorodd ar yr un pryd ym Mhorthcawl yn rhan greiddiol o’r system drafnidiaeth newydd.

Yn y 1860au, daeth rheilffordd stêm i gymryd lle’r tram. Gallwch ddilyn hen ffordd y tram sydd wedi cael ei hailddatblygu yn llwybr hardd, addas i deuluoedd. Cadwch lygad am godau QR mewn safleoedd ar hyd y llwybr, a fydd yn dod â stori’r rheilffordd yn fyw.

Cyfeiriad: Heol Village Farm, Stad Ddiwydiannol Village Farm, Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, CF33 6BL

Ceidwad y Pwll

Un o’n cerfluniau ‘Ceidwaid Natur’ yw ‘Ceidwad y Pwll’. Maent yn ychwanegu diddordeb at ein llecynnau harddwch a gyda’r cerddi sy’n cyd-fynd, maent yn dal dychymyg yr ymwelwyr iau drwy ryngblethu mytholeg yn y safleoedd.

Y nod yw tanio cyswllt emosiynol â’n gofod gwyrdd ni, ac felly annog pobl i ymweld, yn ogystal â gofalu mwy amdanynt.

Gwirfoddoli neu drefnu trip ysgol yma

Os ydych chi eisiau cefnogi’r safle yma, trefnu ymweliad addysgol, neu wirfoddoli yng nghefn gwlad yn gyffredinol, cysylltwch â ni: 

Cyfeiriad ebost: biodiversity@bridgend.gov.uk

Chwilio A i Y

Back to top