Gwirfoddolwyr Mannau Gwyrdd

Mae gwirfoddoli yn ffordd dda o ddysgu sgiliau newydd, cadw’n heini a chymdeithasu, gan helpu’r amgylchedd ar yr un pryd.

Ceir llu o grwpiau gwirfoddoli ar draws Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

Mae gwirfoddoli yn yr awyr agored yn ffordd wych o gysylltu â phobl, cadw’n heini a gwella eich iechyd corfforol a meddyliol.

Gwirfoddolwyr Mannau Gwyrdd

Cyswllt

Am ragor o wybodaeth ynghylch gwirfoddoli, cysylltwch â:

Ffôn: 01656 815737
Golchfeydd Ogwr

Grwpiau gwirfoddoli

Ceir llu o grwpiau gwirfoddoli ar draws y fwrdeistref sirol. Mae gan bob grŵp gwirfoddol dasg benodol. Efallai y byddwch yn:

  • torri coed
  • creu rhestrau rhywogaethau neu ddiweddaru cofnodion
  • adnabod coed neu rywogaethau
  • gosod gwrychoedd
  • dysgu am reolaeth coetir
  • cofnodi ffyngau, gwneud arolwg o ystlumod neu flodau gwyllt
  • Tywys pobl ar deithiau cerdded neu gynnal sgyrsiau

Mae gan y grŵp yma gyfres o ddigwyddiadau rheoli cefn gwlad amrywiol ledled y fwrdeistref sirol. O dan arweiniad yr hyfforddwyr, mae’r gweithgareddau’n cynnwys plygu gwrych a thocio. Hefyd, rydym yn cynnal teithiau a sgyrsiau natur.

Byddwn yn darparu’r holl offer sydd ei angen, ond cofiwch wisgo dillad ac esgidiau priodol ar gyfer tywydd y diwrnod. Rhaid i bob plentyn dan 16 oed fod yng nghwmni oedolyn.

Mae Parc Gwledig Bryngarw yn bwysig oherwydd bod ganddo lawer o goed, blodau, adar, mamaliaid a phryfed. Mae ei gynefinoedd yn cynnwys coetiroedd collddail, gwlybdiroedd, dolydd o flodau gwyllt, Afon Garw a gerddi ffurfiol. Mae’n rhaid rheoli’r rhain i gyd i sicrhau bod ymwelwyr yn gallu eu mwynhau drwy gydol y flwyddyn.

Mae ein gwirfoddolwyr yn hanfodol i’r gwaith yma ac mae eu prosiectau wedi cynnwys y canlynol:

  • adfer y berllan
  • arolygu ein blodau gwyllt
  • tocio’r coetiroedd
  • creu tŷ crwn o’r Oes Haearn yn ein gardd natur addysgol

Ar y safle yma, mae’r gwirfoddolwyr yn cyfarfod un dydd Sadwrn o bob mis rhwng 10am a 2pm. I ymuno, cysylltwch â’r grŵp ar y manylion isod.

Ffôn: 01656 725155
Cyfeiriad ebost: bryngarw.park@awen-wales.com

Mae’r grŵp yma’n ymweld â chefn gwlad. Mae’r tripiau wedi cynnwys y canlynol:

  • ymchwilio i safleoedd hanesyddol
  • diweddaru cofnodion ar gyfer rhywogaethau llai cyffredin
  • edrych ar ardaloedd yr ymwelir â hwy yn llai aml i weld beth sydd yno
  • creu rhestr o rywogaethau ar gyfer eu rhoi mewn basau data cenedlaethol a phrosiectau fflora
  • cofnodi manylion monitro pellach fel poblogaethau, union leoliadau a nodiadau am gynefinoedd

Hefyd, mae’r grŵp yn fforwm cyfeillgar ar gyfer dysgu am gofnodion botanegol. Mae hyn yn cynnwys datblygu sgiliau adnabod planhigion, cyfnewid cyngor ar gyfer rhywogaethau a grwpiau anodd, a dysgu mwy am gynefinoedd lleol. Mae croeso i bawb sydd â diddordeb mewn cofnodi planhigion, boed ddechreuwyr neu arbenigwyr.

Mae’r grŵp yma’n cofnodi ffyngau Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Mae’n annog diddordeb mewn ffyngau, a gwell dealltwriaeth ohonynt drwy dripiau, sgyrsiau a gweithdai. Mae’r rhain ar agor i’r cyhoedd ac i aelodau. Hefyd, mae’r grŵp yn codi ymwybyddiaeth drwy feithrin cysylltu â grwpiau proffesiynol ac amgylcheddol. Mae’n hybu gwarchod ffyngau a chynefinoedd dan fygythiad o ffyngau prin.

Am fwy o wybodaeth neu i ymuno, cysylltwch â hwy.

Cyfeiriad ebost: glamorganfungi@gmail.com

Gallwch wirfoddoli yng Ngwarchodfa Natur Genedlaethol Cynffig. Dyma’r manylion cysylltu am fwy o wybodaeth: 

Ffôn: 01656 743386
Cyfeiriad ebost: biodiversity@bridgend.gov.uk

Mae’r grŵp yn monitro clwydi ac yn arolygu safleoedd penodol yn rheolaidd. Fel rhan o Raglen Monitro Ystlumod Genedlaethol Ymddiriedolaeth Cadwraeth yr Ystlumod, maent yn cynnal arolygon maes, arolygon ar ddyfrffyrdd, ac arolygon machlud-codiad haul.

Hefyd, mae’r grŵp yn cynghori perchnogion tai sydd â chlwydi. Maent yn gofalu am ystlumod sâl ac wedi anafu hefyd. Mae gan y grŵp ystlumod deithiau cerdded rheolaidd i aelodau.

Mae’r gwirfoddoli’n digwydd ar ddyddiau Mercher a Gwener. Mae’r ymddiriedolaeth yn awgrymu rhodd o £2 tuag at ei gwaith cadwraeth ym mhob digwyddiad.

Mae pencadlys gwaith gwirfoddoli’r ymddiriedolaeth ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yng Nghanolfan Ymwelwyr Parc Slip yr Ymddiriedolaeth Natur. Mae’n cynnwys siop goffi sy’n gweini cinio a byrbrydau, toiledau a maes parcio am ddim.

Nod Partneriaeth Natur Leol Pen-y-bont ar Ogwr (LNP) yw ail-gysylltu pobl â natur. Mae’r bartneriaeth yn dod â chymunedau ynghyd i archwilio, darganfod a rhannu natur ar garreg eu drws. Gall hyn, yn ei dro, roi buddion i’n bywyd gwyllt lleol.

Mae LNP Pen-y-bont ar Ogwr yn dod ag ystod eang o sefydliadau ynghyd. Mae hyn yn cynnwys unigolion sydd â diddordeb mewn natur leol a chynrychiolwyr:

  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
  • Cyfoeth Naturiol Cymru
  • Prifysgol Abertawe
  • Plantlife
  • Wildlife Trust
  • Parc Bryngarw
  • Cadw Cymru’n Daclus

Mae’r LNP hwn yn rhan o rwydwaith adfer natur wedi’i greu o 23 o bartneriaethau natur lleol ledled Cymru. Gyda’n gilydd, nod y partneriaethau hyn yw creu Cymru sy’n gyfoethog o ran natur i bawb drwy rannu gwybodaeth, profiad ac arfer orau.

Cyfeiriad ebost: Jess.Hartley@bridgend.gov.uk

Cynhelir dyddiau gwirfoddoli ar ddyddiau Mercher a Gwener Gallai'r tasgau gynnwys:

  • Gwanwyn: arolygon, clirio llwybrau, gwaith ffensys, creu a chynnal a chadw llwybrau pren, gwaith mynediad, rheoli llennyrch coetiroedd.
  • Haf: clirio llwybrau, rheoli ffensys, arolygon, rheoli dolydd, rheoli rhywogaethau ymledol, gwaith mynediad, rheoli llennyrch coetiroedd.
  • Hydref: : prysgoedio, rheoli coetiroedd, gosod gwrychoedd, arolygon, creu cynefinoedd, gwaith mynediad, rheoli corsleoedd.
  • Gaeaf: gwaith mynediad, rheoli corsleoedd, prysgoedio, rheoli coetiroedd, creu cynefinoedd.

Chwilio A i Y

Back to top