Systemau draenio cynaliadwy
O 7 Ionawr 2019 ymlaen, bydd datblygiadau newydd sy’n cynnwys o leiaf ddau eiddo, neu fwy na 100m2 o ardal adeiladu, yn gorfod cael draeniad cynaliadwy er mwyn rheoli’r dŵr arwyneb ar y safle. Rhaid i’r systemau draenio dŵr arwyneb gael eu cynllunio a’u hadeiladu yn unol a’r safonau ar gyfer draenio cynaliadwy.
Rhaid i’r systemau hyn gael eu cymeradwyo gan Gorff Cymeradwyo SuDS (SAB) cyn i’r gwaith adeiladu ddechrau.
Systemau draenio cynaliadwy (SuDS) yw systemau draenio sy’n gwella neu ddim yn niweidio’r amgylchedd. Maent yn draenio dŵr arwyneb yn effeithlon ac yn gynaliadwy gan leihau llygredd a rheoli’r effaith ar ansawdd dŵr y cyrff lleol o ddŵr.
Dywed Atodlen 3 Deddf Rheoli Llifogydd a Dŵr (FWMA) 2010 bod rhaid i ddraeniad dŵr arwyneb mewn datblygiadau newydd fodloni safonau cenedlaethol ar gyfer draenio cynaliadwy. Mae mwy o wybodaeth ar gael drwy ddarllen CIRIA 753: Y Llawlyfr SuDS.
Hefyd dywed Atodlen 3 ei bod yn ofynnol i awdurdodau lleol gymeradwyo, mabwysiadu a chynnal systemau sy’n cydymffurfio ag Adran 17 y Ddeddf. Am ragor o wybodaeth am y ddeddfwriaeth, ewch i Atodlen 3 y Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr.
Mae’r awdurdod lleol yn gweithredu fel Corff Cymeradwyo’r Systemau (SAB). Rhaid iddynt sicrhau bod y cynigion draenio’n addas i bwrpas ac wedi’u cynllunio a’u hadeiladu yn unol â safonau cenedlaethol. Mae hyn yn berthnasol i bob datblygiad newydd gydag o leiaf ddau eiddo, neu sy’n fwy na 100m2 o ran ardal adeiladu.
Rhaid i’r SAB gyflawni’r canlynol:
- darparu gwasanaeth i drafod cynigion cyn y gwneir cais
- asesu a chymeradwyo ceisiadau draenio ar gyfer datblygiadau newydd
- mabwysiadu a chynnal systemau draenio dŵr arwyneb
Os ydych chi’n ddatblygwr, asiant neu unigolyn sydd eisiau caniatâd cynllunio ar gyfer datblygiad, rhaid i chi ofyn am gymeradwyaeth yn annibynnol ar eich cais cynllunio. Mae hyn yn berthnasol os yw eich datblygiad yn cynnwys dau eiddo neu fwy neu os yw’r ardal adeiladu’n fwy na 100m2. Dim ond ar ôl dyfarnu caniatâd cynllunio a chymeradwyaeth draenio y gall y gwaith adeiladu ddechrau.
Ni fydd raid i chi wneud cais am gymeradwyaeth SAB os oes caniatâd cynllunio wedi’i ddyfarnu neu os oes cais dilys wedi’i dderbyn erbyn 7 Ionawr 2019.
Bydd arnoch angen cymeradwyaeth os dyfarnwyd caniatâd cynllunio yn amodol ar fater a gedwir yn ôl ac os na wnaed eich cais cyn 7 Ionawr 2019.
Sut i geisio cymeradwyaeth SAB
Bydd gwasanaeth cyn-ymgeisio ar gael i drafod eich safle, y gofynion draenio a beth sydd angen ei gyflwyno fel rhan o’ch cais. Bydd ffi am y gwasanaeth hwn.
Bydd y gwasanaeth hwn yn helpu i gyfyngu ar yr oedi gyda chymeradwyo ac yn lleihau’r gost yn y tymor hir. Mae’n cael ei annog yn gryf cyn cyflwyno eich cais yn llawn.
Gallwch wneud cais am ganiatâd drwy ddefnyddio’r ffurflen gais draenio cynaliadwy: