Rhywogaethau Estron Goresgynnol

Mae Rhywogaethau Goresgynnol Estron (INNS) yn blanhigion, anifeiliaid, ffyngau a micro-organebau sydd wedi cael eu cyflwyno i rannau o’r byd lle na fyddant i’w gweld yn naturiol.

Mae ganddynt y gallu i ddifrodi a niweidio’r amgylchedd yn eang iawn.

  • Efwr Enfawr
  • Ffromlys chwarennog
  • Clymog Japan

Mae’r efwr enfawr yn wmbeliffer tal iawn (aelod o deulu’r moron) sy’n arddangos clwstwr o flodau mawr, gwyn sy’n debyg i ymbarél. Mae ei goesyn gwag yn gribog a gyda smotiau porffor, ac mae ei ddail yn fawr ac yn rhanedig.

Mae gan y ffromlys chwarennog flodau mawr, pinc sydd â siâp fel bonet; mae’r rhain wedi’u dilyn gan godennau hadau gwyrdd sy’n hongian.

Gall clymog Japan dyfu i dros dri metr o daldra a ffurfio llwyni trwchus. Rhai o nodweddion unigryw’r planhigyn yw:

  • coesau igam ogam
  • dail gwyrdd â siâp fel tarian
  • coesau â smotiau porffor
  • blodau gwyn yn yr haf

Ystyrir deunydd gwastraff o’r planhigion hyn fel ‘gwastraff a reolir’ dan Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 1990. Mae’n rhaid cael gwared ohono mewn safle gwastraff sydd â thrwydded neu ganiatâd addas.

Mae’n drosedd plannu neu achosi’r rhywogaeth hon i dyfu yn y gwyllt. Gall hyn gynnwys ei ledaenu drwy strimio, torri neu adael gwastraff halogedig.

Adrodd am glymog Japan ar dir preifat

Cyfrifoldeb y tirfeddiannwr yw clymog Japan. Os nad ydych yn gwybod pwy yw’r tirfeddiannwr, gallwch gysylltu â'r Gofrestrfa Dir.

Os ydyw ar eich tir, mae’n ddyletswydd arnoch i sicrhau nad yw’n lledaenu i fannau gwyllt neu i eiddo rhywun arall. Gallwch naill ai ei drin eich hun, neu gael cwmni arbenigol i wneud hynny. Gall gymryd nifer o flynyddoedd i gael gwared ar glymog Japan.

Map Rhywogaethau Estron Goresgynnol (INNS)

Gwelwch ddosbarthiad ac effaith Rhywogaethau estron goresgynnol (INNS) yng Nghymru drwy ddefnyddio Map Rhywogaethau Estron Goresgynnol Cyfoeth Naturiol Cymru.

Chwilio A i Y

Back to top