Trwyddedau perfformiad plant
Gall fod angen trwydded berfformio ar blant ym myd adloniant. Mae gweithgarwch perthnasol yn cynnwys Teledu, theatr, modelu, sioeau dawns, pantomeimiau, grwpiau cerddoriaeth, a chwaraeon cyflogedig (boed yn broffesiynol neu’n amatur).
Bydd angen trwydded:
- ar bob plentyn o adeg geni tan ddiwedd addysg orfodol, sef dydd Gwener olaf mis Mehefin y flwyddyn academaidd pan fyddant yn troi’n 16 oed
- os codir ffi mewn cysylltiad â pherfformio, sy’n berthnasol boed y perfformwyr yn cael eu talu ai peidio
- os bydd y perfformiad yn cymryd lle ar safle trwyddedig
- os caiff y perfformiad ei recordio i’w ddarlledu neu i’w arddangos, megis ar deledu, radio, neu’r we
Caiff trwyddedau plant ym myd adloniant eu rheoleiddio dan Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 1933/63 a Rheoliadau Plant (Perfformiadau a Gweithgareddau) (Cymru) 2015.
Eithriadau
Nid oes angen trwydded ar gyfer rhai mathau o berfformiadau. Mae eithriadau o’r fath yn berthnasol pan na chaiff taliad ei wneud i blant yn cymryd rhan mewn perfformiad neu i unrhyw barti mewn cysylltiad â hynny. Nid ydynt yn berthnasol i chwaraeon na modelu cyflogedig. Dyma’r eithriadau:
- pan fo ysgol yn trefnu perfformiad
- pan fo’r plentyn wedi perfformio am lai na phedwar diwrnod yn ystod y chwe mis diwethaf, a elwir y rheol pedwar diwrnod
- os gall y trefnydd wneud cais am Gymeradwyaeth Grŵp o Blant (BOPA)
Gwnewch gais am drwydded perfformiad plant
I wneud cais, llenwch ffurflen gais ar-lein.
Anfonwch geisiadau wedi’u cwblhau at:
Gwenwch gais am Gymeradwyaeth Corff o Bersonau (BOPA)
Mewn rhai achosion, gall trefnydd wneud cais am Gymeradwyaeth Grŵp o Blant (BOPA) gan yr awdurdod lleol lle y mae’r perfformiad/au yn digwydd. Mae BOPA yn cwmpasu grŵp o blant gyda’i gilydd heb fod angen trwyddedau unigol.
Dyma’r gofynion allweddol:
- ni chaiff plant eu talu, ac ni fyddai disgwyl iddynt gael eu talu fel arfer
- Gall y sefydliad ddangos bod ganddo systemau cadarn ac effeithiol i ddiogelu plant yn ystod ymarferion a pherfformiadau
Os bydd angen amser i ffwrdd o’r ysgol ar blentyn, nid yw’r eithriad hon yn berthnasol, a bydd angen trwydded unigol.
Gall awdurdod lleol osod amodau sy’n blaenoriaethu lles y plant a gall ddiddymu cymeradwyaeth os na chânt eu bodloni.
Anfonwch geisiadau wedi’u cwblhau at: