Cymorth Ieuenctid

Mae Cymorth Ieuenctid Pen-y-bont ar Ogwr yn gweithio gyda phobl ifanc 11 i 25 oed i’w datblygu ar lefel bersonol, gymdeithasol ac addysgiadol drwy amrywiaeth o gyfleoedd. Rydym yn gwneud hyn mewn cymunedau drwy brofiadau cyfranogi, ac rydym yn cynnig gwybodaeth, cefnogaeth ac arweiniad er mwyn galluogi pobl ifanc i gyrraedd eu potensial llawn unigryw.

Rydym yn gweithio gyda phobl ifanc mewn amrywiaeth o leoliadau gan gynnig cefnogaeth gyffredinol, ac, i’r rhai sydd wedi eu hadnabod i fod yn fregus, cefnogaeth wedi’i thargedu.

Mae ein gweithwyr ieuenctid yn weithlu sydd wedi cymhwyso ac ymrestru’n genedlaethol.

Mae hawliau plant a Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Plant wrth wraidd yr holl waith rydym yn ei wneud, gydag ymgynghoriadau rheolaidd ac ymarferion ymgysylltu yn cael eu cynnal er mwyn sicrhau bod lleisiau pobl ifanc yn ganolbwynt i unrhyw waith gwneud penderfyniadau.

Mae ein hymgysylltu gyda phobl ifanc yn digwydd mewn canolfannau ieuenctid, clybiau ieuenctid, ar y stryd, ac o fewn cymunedau lleol, Rydym hefyd yn ymgysylltu mewn gofodau digidol, gan gynnwys ein ‘bot siarad’ ar-lein a gallwch ddilyn ein hamrywiol sianeli cyfryngau cymdeithasol (@bcbcys) i ddysgu mwy.

Rota Bytholwyrdd

Beth sydd 'mlaen

Cymerwch ran mewn gweithgareddau, gemau a sesiynau galw heibio wythnosol er mwyn helpu i fynd i’r afael â diflastod ac unigedd.

Chat bot

Sgwrs ar-lein

Mae ein tîm cymorth ieuenctid wrth law i sgwrsio â chi ar-lein rhwng 10am - 5pm, Llun – Gwener.
Iechyd a lles

Iechyd Emosiynol Pobl Ifanc

Rydym yn darparu cymorth iechyd emosiynol, llesiant a sgiliau bywyd i bobl ifanc rhwng 11 a 25 oed sy’n byw yn sir Pen-y-bont ar Ogwr.

Cynhyrchion Grace and Green

Cynhyrchion mislifol am ddim

Dewch o hyd i’ch stondin ’Pic-a-Mics’ Urddas Mislif agosaf, a thanysgrifio i’n rhaglen cynnyrch mislif AM DDIM.

Tŷ papur glas bach yng nghledr dwy law.

Cefnogaeth gyda Tai

Ydych chi mewn perygl o ddod yn ddigartref? Gallwn gynnig cefnogaeth i chi, yn cynnwys cymorth teulu a chymorth tenantiaeth.

Desg gyda ffôn symudol, gliniadur a phad nodiadau.

Addysg a chyflogaeth

Cymorth i bobl ifanc yn y fwrdeistref sirol, yn cynnwys llunio CV proffesiynol yn rhad ac am ddim, cyrsiau sy’n gysylltiedig â gwaith a llawer mwy!

Logo Eich Llais

Eich Llais Chi

Rydym yn gwerthfawrogi eich barn, yn enwedig wrth sicrhau bod y gwasanaethau yr ydym yn eu cynnig yn bodloni eich anghenion.

Logo Cyngor Ieuenctid Pen-y-bont ar Ogwr

Cyngor Ieuenctid Pen-y-bont ar Ogwr

Mae’r corff hwn yn rhoi llais i bobl ifanc yn y fwrdeistref sirol. Pobl ifanc leol a’i sefydlodd ac sy’n ei gynnal.

Map of youth centres in Bridgend County Borough

Canolfannau Ieuenctid

Ymunwch â ni yn y Ganolfan Ieuenctid Mynediad Agored, y lle gorau i fod i bob un ohonoch chi bobl ifanc gwych sy'n 11 a throsodd! Dyma gipolwg bach ar beth fydd ar gael ei chi yn ystod ein sesiynau:

Bridgend Youth Matters

Materion Ieuenctid Pen-y-bont

Mae Materion Ieuenctid Pen-y-bont yn rhwydwaith o sefydliadau lleol sy’n cydweithio ar gyfer cefnogi plant a phobl ifanc ledled y fwrdeistref sirol.

Mae eu haelodau’n gymysgedd o glybiau ieuenctid, grwpiau cymunedol, a gwasanaethau sy’n cynnig mathau gwahanol o gymorth a gweithgareddau ar gyfer pobl ifanc.

Chwilio A i Y

Back to top