Mae cofrestriadau ar gyfer Casgliadau Gwastraff yr Ardd 2025/26 nawr ar agor – Cofrestrwch ar-lein
Cynhyrchion mislifol am ddim
Mae tlodi mislif yn parhau i fod yn bryder dirfawr mewn sawl cymuned, gydag unigolion a theuluoedd yn cael trafferth fforddio cynnyrch misglwyf angenrheidiol.
Yng nghanol yr argyfwng costau byw, mae chwyddiant ar ei uchaf a biliau ynni’n saethu i fyny’n golygu bod nifer wedi eu gorfodi i flaenoriaethu hanfodion cartref eraill dros brynu cynnyrch fel padiau a thamponau.
I bobl ifanc, mae’r diffyg hawl i gynnyrch yn amharu ar addysg a phresenoldeb yn yr ysgol.

Tanysgrifiad cynhyrchion mislif am ddim
Nod y rhaglen cynnyrch mislif am ddim yw mynd i’r afael â’r broblem o dlodi mislif, gan sicrhau bod unigolion sy’n wynebu caledi ariannol â hawl i gynnyrch misglwyf hanfodol, gan chwalu rhwystrau’r hawl i addysg.
Drwy bartneriaeth â Grace & Green, darparwr blaenllaw cynhyrchion mislif ecogyfeillgar, gall trigolion o dan 25 oed yn y fwrdeistref sirol gael cynhyrchion yn uniongyrchol i’w cartref neu eu codi o fan casglu, gan sicrhau y gall unigolion reoli eu mislif gydag urddas a hyder.
Mae unrhyw un o dan 25 oed sydd â chod post Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn gymwys i gofrestru!
Stondinau Dewis a Dethol Urddas y Mislif
Yn galw ar bawb 11 i 25 oed, mae’n amser i chi fynd amdani a bachu nwyddau gwych oherwydd mae popeth ar ein stondinau Dewis a Dethol Urddas y Mislif ni ar gael AM DDIM!
Mae'r stondinau'n llawn amrywiaeth o gynhyrchion mislif untro ac ailddefnyddiadwy ar gyfer y gymuned.
Felly peidiwch ag oedi am eiliad yn fwy, ewch i'ch Canolfan Hamdden Halo neu Ganolfan Ieuenctid agosaf ac fe allwn ni hwyluso pethau i chi gyda’ch mislif gyda'n gilydd!