Tîm Sgrinio Cymorth Cynnar
Y Tîm Sgrinio Cymorth Cynnar yw’r pwynt cyswllt cyntaf i unrhyw arbenigwr, rhiant, plentyn neu berson ifanc gael gwybodaeth, cyngor a chymorth angenrheidiol ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
Mae’r Swyddogion Sgrinio ar gael i wrando ar eich sefyllfa, adnabod y cymorth gorau ar eich cyfer a’ch cynorthwyo i gael mynediad ato.
Gall y Tîm Sgrinio eich cynorthwyo chi i ganfod gwasanaethau cymorth yn cynnwys cyngor ariannol, tai, budd-daliadau llesiant, ymddygiad plant, gofal plant, iechyd a llesiant, cymorth i rieni, a llawer mwy.
Mae’r Tîm Sgrinio yn gweithio ochr yn ochr ag Ysgolion, yr Heddlu, y Gwasanaethau Iechyd a’r Gwasanaethau Cymdeithasol er mwyn sicrhau eich bod yn derbyn y cymorth cywir, gan y gwasanaeth cywir ar yr amser cywir.
Sut ydw i’n cael mynediad at gymorth?
Gall deuluoedd gael mynediad at gefnogaeth Cymorth Cynnar drwy gysylltu â 01656 815420 neu fel arall, cwblhewch ffurflen gyswllt a bydd aelod o staff yn cysylltu â chi o fewn 48 awr.
Efallai y bydd teuluoedd yn cael eu cyfeirio gan weithiwr proffesiynol, fel Ymwelydd Iechyd, Gweithiwr Cymdeithasol, ysgol ayyb.
Gall gweithwyr proffesiynol wneud atgyfeiriad drwy gwblhau ffurflen C1 a’i dychwelyd i:
Nodwch os gwelwch yn dda: Os ydych chi eisoes wedi derbyn cefnogaeth gan Gymorth Cynnar, bydd angen i chi ddisgwyl 3 mis cyn y gall atgyfeiriad newydd gael ei wneud, oni bai bod gennych broblemau newydd sydd angen cymorth.
