Tai
Gwybodaeth a chefnogaeth yn ymwneud â thai ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, yn cynnwys digartrefedd, addasiadau a’r gofrestr dai.
Gall eiddo gwag gael ei ddefnyddio eto wrth ei rentu, ei werthu, neu ei werthu mewn ocsiwn, neu gyda’r perchnogion eu hunain yn symud yno i fyw.
Mae bod yn ddigartref yn bryder mawr ac yn achosi llawer o straen, neu’n creu risg o hynny. Gellir cyflwyno cais digartrefedd i Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr 24/7, 365 diwrnod y flwyddyn.
Mae angen atgyweirio a gwella miloedd o eiddo preifat ledled y fwrdeistref sirol er mwyn eu codi i safonau byw presennol. Rydym yn cynnig sawl grant i helpu i wneud hyn.
Mae pedair prif gymdeithas dai Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn defnyddio un gofrestr dai i ddyrannu tai cymdeithasol.
P'un a ydych yn landlord profiadol â sawl eiddo neu wedi dod yn berchen ar eiddo yn ddiweddar, efallai trwy berthynas neu newid amgylchiadau, gallai Cynllun Lesio Cymru fod yn addas i chi.
Codir tâl am ein gwasanaeth difa pla ar gyfer eiddo domestig o fewn Cyngor Bwrdeistref Pen-y-bont ar Ogwr. Nid ydym yn trin eiddo masnachol.
Mae’r Gyfrifiannell Amser Aros yn ganllaw rhyngweithiol. Mae’n galluogi i ddefnyddwyr amcangyfrif yn fras faint o amser y bydd yn ei gymryd i gael eiddo cymdeithas tai drwy enwebiad gennym ni i gymdeithas tai.