Ynni a Dadgarboneiddio
Gwybodaeth am ynni a dadgarboneiddio gan gynnwys cynlluniau gwresogi, effeithlonrwydd ynni a chymunedau carbon isel.

Strategaeth Garbon Sero Net
Mae Llywodraeth Cymru wedi deddfu ar gyfer Cymru Sero Net erbyn 2050, gyda’r sector cyhoeddus yn arwain trwy esiampl i gyflawni Sero Net erbyn 2030.
Fel sefydliad, rydym wedi ymrwymo i gyflawni’r targed Sero Net erbyn 2030, ac yn cydnabod y rôl arweiniol ar lefel ehangach, o safbwynt galluogi busnesau a chymunedau’r sir i gyflawni Sero Net.
Cartrefi Gwyrdd Cymru
Helpu perchnogion tai yng Nghymru i arbed ar filiau ynni a lleihau eu heffaith amgylcheddol
Mae Cartrefi Gwyrdd Cymru yn fenter gan Lywodraeth Cymru, a reolir gan Fanc Datblygu Cymru, a gynlluniwyd i gefnogi perchnogion tai cymwys i wneud gwelliannau ynni effeithlon i'w cartrefi.
Mae'r Cynllun yn cynnig cyllid di-log a chymorth arbenigol wedi'i ariannu'n llawn, gan eich helpu i arbed arian ar filiau ynni a lleihau allyriadau carbon.