Cymunedau Carbon Isel
Mae Cymunedau Carbon Isel yn fenter a lansiwyd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i rymuso cymunedau lleol i gynhyrchu a rhannu trydan adnewyddadwy ymysg aelwydydd sy’n cymryd rhan, wrth helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd.
Mae’r cyngor yn datblygu prosiect arddangos arloesol sy’n archwilio sut i sefydlu cymunedau carbon isel a chreu marchnadoedd ynni lleol sy’n masnachu mewn ynni adnewyddadwy sy’n cael ei gynhyrchu a’i ddefnyddio’n lleol er budd trigolion lleol.

De Corneli
Dewiswyd De Corneli fel safle ar gyfer y prosiect arddangos Cymunedau Carbon Isel cyntaf. Gwahoddir perchnogion tai o fewn y pentref i gymryd rhan yn yr achos.
Cynllun pwmp gwres.
Nod y prosiect yw arddangos sut y gall eich eiddo gael ei drawsnewid yn gartref eco-gyfeillgar cost isel sy’n defnyddio’r systemau gwresogi diweddaraf.
HyRES
Mae’r fenter Cymunedau Carbon Isel yn dechrau ar gam newydd, yn ymchwilio’r defnydd o hydrogen a gynhyrchir yn lleol o fewn ffermio, diwydiant lleol, a chartrefi, lle mae modd disodli rhywfaint o’r nwy naturiol a ddefnyddir ar gyfer gwresogi/coginio.
