Marchnad Ynni Leol De Corneli

Mae De Corneli wedi cael ei ddewis fel y safle ar gyfer yr arddangosfa Cymunedau Carbon Isel gyntaf, a bydd perchnogion tai yn y pentref yn cael eu gwahodd yn fuan i gymryd rhan yn y treial. Mae ei leoliad a'i strwythur yn ei wneud yn ddelfrydol am y rhesymau canlynol:

  • mae'r pentref yn ddaearyddol ungiryw, heb unrhyw ddatblygiad rhuban
  • mae'r pentref yn ungiryw o ran trydan - un is-orsaf yng nghanol y pentref sy’n ei wasanaethu (mae'r holl dai'n cael eu bwydo o'r fan hon)
  • mae gan y pentref y cyfeiriadedd cywir ar gyfer ynni solar
  • mae'r pentref o faint y gellir ei reoli ar gyfer y prosiect arddangos
Low Carbon Communities logo

Sut bydd yn gweithio?

Bydd paneli solar neu offer awyru solar yn cael eu gosod mewn nifer bach o dai yn y pentref a ddewisir.

Bydd y trydan a gynhyrchir yn cael ei rannu gyda'r cartrefi eraill sy'n aelodau o'r Gymuned Carbon Isel.

Bydd unrhyw drydan ychwanegol a gynhyrchir yn cael ei storio mewn batris sy'n gysylltiedig â'r cynllun a'i ddefnyddio pan nad yw'r paneli solar yn cynhyrchu digon o drydan.

Bydd meddalwedd yn cysylltu'r holl gartrefi gyda'i gilydd ac yn sicrhau y bydd yr holl aelwydydd sy'n cymryd rhan yn derbyn ynni gwyrddach.

Mae’r ddelwedd yn dangos sut mae marchnad ynni leol yn gweithio, gan nodi llif yr ynni a’r data rhwng y gwahanol elfennau ynddi.

Diagram Cymunedau Carbon Isel

Pwy gaiff gymryd rhan

Bydd y prosiect arddangos yn cael ei dreialu yn Ne Corneli.

I gychwyn, bydd yn cynnwys nifer fechan o aelwydydd cymysg sy'n bodloni'r meini prawf canlynol:

  • cartrefi sydd â’u toeau yn wynebu’r de, dwyrain neu’r gorllewin - er mwyn gosod paneli solar
  • cartrefi sydd eisoes â phaneli solar
  • rhai cartrefi heb baneli solar yn gymysg â systemau rheoli ynni cartref

Manteision

Dyma brosiect arddangos arloesol ac wrth fod ynghlwm â’r prosiect, byddwch yn helpu i ddatgarboneiddio De Corneli i ddechrau ac yna, os yn llwyddiannus, rhannau eraill o Gymru yn ogystal. Mae'r buddion yn cynnwys:

  • gosod offer yn rhad am ddim
  • defnyddio canran uwch o drydan adnewyddadwy
  • mwy o reolaeth dros eich cyflenwad trydan

Sut i gymryd rhan

Mae gan y prosiect arddangos ddigon o aelwydydd yn cymryd rhan yn y cam hwn ar hyn o bryd. Rydym yn chwilio am gyllid ychwanegol i ymestyn y prosiect.

Os oes gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan yng ngham nesaf y prosiect, anfonwch e-bost at:

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi llwyddo i gael cyllid gan Lywodraeth Cymru drwy Arloesedd Ymchwil Busnes Cyfan ar gyfer Datgarboneiddio (WBRID) yn seiliedig ar egwyddorion Menter Ymchwil Busnesau Bach.

Cwestiynau Cyffredin

Mae Cymunedau Carbon Isel yn fenter a lansiwyd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i rymuso cymunedau lleol i gynhyrchu a rhannu trydan adnewyddadwy ymhlith aelwydydd sy'n cymryd rhan gan helpu i frwydro yn erbyn yr argyfwng hinsawdd ar yr un pryd.

Bydd y prosiect arddangos hwn yn treialu marchnad ynni yn y gymuned.

Efallai y bydd gan eich cartref baneli solar a batris wedi'u gosod i gynhyrchu a storio trydan, y gellid wedyn ei ryddhau i'r rhwydwaith pan fydd angen trydan. 

Gallai eich cartref hefyd storio ynni mewn batri pan nad oes ei angen ar y rhwydwaith (fel canol dydd pan fydd yn heulog iawn neu'n gynnar yn y bore pan fo gweithgarwch yn isel). 

Bydd hyn i gyd yn cael ei reoli gan feddalwedd – ni fydd yn rhaid i chi godi bys.  Wrth gwrs, byddwch yn gallu parhau i ddefnyddio trydan yn union fel rydych chi’n ei wneud heddiw.

Ar ben hynny, efallai y bydd system SolarVenti wedi'i gosod yn eich cartref i wella’r broses awyru yn y tŷ.

Mae'r angen brys i weithredu i fynd i'r afael ag effaith yr argyfwng hinsawdd yn gyfarwydd i bob un ohonom ac yn gynyddol, mae pobl yn gofyn iddyn nhw eu hunain:

Nac oes, nid oes ffioedd. Mae cymryd rhan am ddim.

Byddwch yn helpu i ddatgarboneiddio De Corneli yn y lle cyntaf ac os bydd yn llwyddiannus, rhannau eraill o Gymru hefyd. Bydd y manteision yn cynnwys

  • gosod offer yn rhad ac am ddim
  • defnyddio canran uwch o ynni adnewyddadwy
  • mwy o reolaeth dros eich cyflenwad trydan eich hun
  • Archwiliad iechyd misol
  • Mynediad at gymorth desg gymorth

Nid oes angen i chi wneud unrhyw beth yn wahanol gan ein bod am i chi fyw eich bywyd yn ôl yr arfer. Mae eich profiadau a'ch barn yn bwysig a byddwn yn cysylltu â chi i gael adborth.

Na, nid yn ystod yr arddangosiad.

Tuag wythnos ar gyfer paneli solar a hanner diwrnod ar gyfer SolarVenti. Bydd arolwg cyn-ddethol cychwynnol hefyd ar gyfer systemau SolarVenti sy'n cymryd tua 2 awr.

Byddwn yn defnyddio gosodwyr proffesiynol a fydd yn tarfu cyn lleied â phosibl.

Na fydd.

Y consortiwm Cymunedau Carbon Isel, sy'n cynnwys Nuvision Wales, Passiv UK, Challoch Energy, a Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Ni chaiff ei rannu â thrydydd partïon. Ni fyddwn yn rhannu eich data personol chwaith.

Elfen hanfodol o'r prosiect hwn yw rhoi cyhoeddusrwydd i'r hyn rydym yn ei wneud er mwyn rhannu'r hyn rydym yn ei ddysgu a'r datblygiadau. O bryd i'w gilydd efallai y byddwn yn gofyn am i chi gymryd rhan mewn cyfweliadau, lluniau a fideos. Ni fyddwn yn datgelu unrhyw wybodaeth bersonol neu luniau ohonoch heb eich caniatâd.

Ydy, dim ond ychydig o'r cartrefi fydd â phaneli solar ar eu toeau tra bydd eraill yn cael eu cysylltu â'r rhwydwaith cyffredinol.

Solar PV / Batris

Y consortiwm Cymunedau Carbon Isel fydd yn berchen ar y technolegau a osodir.

Na fydd.

Y gosodwr.

Nac oes.

Bydd, bydd hyn yn cael ei ddarparu ar eich cyfer chi.

Gallwch, gallwn integreiddio eich solar i'r LEM.

Os nad yw'r treial yn symud ymlaen i'r cam nesaf, bydd perchnogaeth yr offer yn cael ei throsglwyddo (yn rhad ac am ddim) i berchnogion tai.

Awyru solar

Defnyddio aer o'r amgylchedd naturiol ar gyfer awyru mewn cartref drwy ddefnyddio ynni'r haul.

System batentau ar gyfer echdynnu, cynhesu a sychu aer o'r amgylchedd naturiol i'w ddefnyddio mewn cartref at ddibenion awyru.

Prif elfen y system yw panel sy'n edrych yn debyg iawn i banel Ffotofoltaidd (PV). Mae’r dimensiynau tua 2000 *1000* 60mm o ddyfnder.

Bydd system SolarVenti yn gwella aer y cartref ac yn lleihau biliau ynni.

Ydy, a bydd cyfarwyddiadau llawn ar gyfer gwneud newidiadau i'r paramedrau, fel cyflymder y ffan, yn cael eu darparu a'u dangos i berchennog y cartref.

Na fydd, gan y bydd modd gwneud addasiadau i leihau unrhyw sŵn.

Bydd yr adnodd a roddir ar gyfer monitro yn darparu'r wybodaeth hon a fydd yn cael ei rhoi i berchennog y cartref.

Bydd, ond bydd hyn yn dibynnu ar y system a osodir, y math o eiddo ac ati.

Bydd, a bydd y dehongliad o'r canfyddiadau yn cael ei drafod gyda pherchnogion y cartref. Ni fydd unrhyw ddata'n cael ei roi i'r cyhoedd.

Partneriaid Cymunedau Carbon Isel:

Mae'r Fenter Cymunedau Carbon Isel yn cael ei datblygu gan y cyngor ar y cyd â sawl rhanddeiliad arall gan gynnwys Challoch Energy, Nuvision Energy (Wales) Ltd a Passiv UK.

Mae Challoch Energy yn ymgynghoriaeth ynni carbon isel sy'n cynorthwyo sefydliadau i ymateb i heriau ynni ac amgylcheddol. Bydd Challoch yn goruchwylio gosod y paneli solar a'r batris yn ogystal â dylunio'r Farchnad Ynni Lleol gyffredinol i sicrhau bod y gymuned yn elwa o drydan adnewyddadwy a gynhyrchir ac a rennir yn lleol.

Bydd Nuvision, cwmni o dde Cymru, yn gosod system awyru solar arloesol mewn cartrefi ynghyd â system monitro ansawdd aer. Ar ôl i’w staff maes proffesiynol gynnal arolygon cyn gosod i ddechrau, bydd ei osodwyr cymwys yn ffitio'r offer. Drwy gydol y cyfnod prawf, cynhelir cyfweliadau byr â pherchnogion tai i gael eu hadborth ar y system ac i gynghori ar welliannau lle bo hynny'n bosibl.

Mae Passiv UK yn arbenigo mewn rheolaeth ddeallus ar dechnolegau a dyfeisiau carbon isel mewn cartrefi drwy ei blatfform rheoli dyfeisiau perchnogol sy'n darparu gwasanaethau cynnal a chadw a diagnostig. Bydd Passiv UK yn efelychu gwahanol agweddau ar y farchnad ynni lleol mewn ymdrech i ddatblygu achos busnes ar gyfer y prosiect.

Low Carbon Community partner logos

Chwilio A i Y

Back to top