Taith cyfrwng Cymraeg
Nod Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yw sicrhau bod addysg cyfrwng Cymraeg ar gael i bob plentyn. Cydnabyddir yn eang bod mynychu ysgol gynradd sy’n cynnig addysg cyfrwng Cymraeg yn ffordd wych o gefnogi rhuglder yn yr iaith Gymraeg.
Mae amrywiaeth o gefnogaeth ar gael i ddechrau dysgu Cymraeg o enedigaeth. O grwpiau plant bach/babanod a rhieni/gofalwyr i addysg gynradd ac uwchradd.

Blynyddoedd cynnar: O enedigaeth hyd at oedran ysgol
Prif ddarparwr addysg oed meithrin cyfrwng Cymraeg Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a ledled Cymru yw Mudiad Meithrin.
Fel sefydliad sy’n frwdfrydig dros roi’r cyfle i bob plentyn chwarae, dysgu a thyfu drwy gyfrwng y Gymraeg, sy’n gwerthfawrogi pwysigrwydd dod o hyd i ofal plant o ansawdd uchel, ac i deimlo eich bod yn dewis yr addysg orau ar gyfer eich plentyn, i chi fel rhiant.
Nid oes angen i chi fod yn gallu siarad Cymraeg i fanteisio ar eu darpariaeth.
Mae Cymraeg i Blant yn cynnal nifer o grwpiau cymorth fel tylino babanod, ioga babanod a sesiynau odli ac arwyddo Cymraeg ledled Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.


Cylchoedd Ti a Fi – Grwpiau plant bach/babanod a rhieni/gofalwyr
Grwpiau plant bach/babanod a rhieni/gofalwyr yw’r Cylchoedd Ti a Fi sy’n cynnig sesiynau i rieni/gofalwyr a’u plant o enedigaeth hyd at oedran ysgol gorfodol.
Maent yn cynnig cyfleoedd i rieni a gofalwyr fwynhau chwarae gyda’u plant mewn awyrgylch anffurfiol Cymreig, gan gymdeithasu â rhieni eraill ar yr un pryd.
Nid oes angen i chi na’ch plentyn allu siarad Cymraeg i ymuno â’r grŵp lleol - mae sgyrsiau rhwng rhieni yn y grwpiau hyn yn digwydd yn Gymraeg a Saesneg.
Byddwch yn cael pob anogaeth i ymuno â’r gweithgareddau, ac efallai dysgu ychydig o Gymraeg eich hun ar y daith.
Mae croeso i deuluoedd fynychu unrhyw sesiwn Cylch Ti a Fi neu Cylch Meithrin. Nid oes unrhyw ddalgylchoedd.

Cylchoedd Meithrin – Grwpiau chwarae cyfrwng Cymraeg
Mae’r Cylchoedd Meithrin yn cynnig sesiynau i blant o ddwy oed hyd at oedran ysgol.
Gall plant sy’n mynychu’r Cylchoedd Meithrin ddechrau yno heb unrhyw ddealltwriaeth o'r Gymraeg.
Maent yn cynnig cyfleoedd i blant chwarae, dysgu a chymdeithasu drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae plant yn gwneud cynnydd ieithyddol sylweddol yn ystod yr oedran hwn.
Mae’r cyfle iddynt chwarae a mwynhau cwmni ffrindiau drwy gyfrwng y Gymraeg yn gosod sylfaen gadarn ar gyfer datblygiad pellach.
Mae croeso i deuluoedd fynychu unrhyw sesiwn Cylch Ti a Fi neu Cylch Meithrin. Nid oes unrhyw ddalgylchoedd.
Rhwng 3 ac 11 oed

Addysg gynradd
Y ffordd orau i ddod yn gwbl rhugl yn yr iaith Gymraeg yw mynychu ysgol gynradd sy’n cynnig addysg cyfrwng Cymraeg.
Mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg, dysgir plant yn gyfan gwbl drwy gyfrwng y Gymraeg (hyd at saith oed).
Mae'r Gymraeg yn parhau fel y prif gyfrwng addysgu yn ystod cyfnod allweddol 2 (oedrannau saith i un ar ddeg), cyflwynir yr iaith Saesneg ym Mlwyddyn 3.
Mae pedair ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg yn y fwrdeistref sirol: Ysgol Gymraeg Bro Ogwr, Ysgol Gynradd Gymraeg Calon y Cymoedd, Ysgol Cynwyd Sant ac Ysgol Y Ferch O’r Sger.
Rhwng 11 ac 19 oed

Addysg uwchradd
Mewn ysgolion uwchradd cyfrwng Cymraeg, darperir y cwricwlwm cyfan drwy gyfrwng y Gymraeg.
Mae un ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg yn y fwrdeistref sirol: Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd ym Maesteg.
Derbyniadau i ysgolion
Dylech wneud cais am le eich plentyn ar-lein pan fydd ceisiadau’n agor. Gallwch gael tawelwch meddwl o weld bod eich cais wedi cael ei dderbyn drwy Fy Nghyfrif. Mae’n gyflym ac yn rhwydd i’w wneud, a'r cwbl sydd ei angen arnoch yw cyfeiriad e-bost. Cofrestrwch ar Fy Nghyfrif heddiw neu mewngofnodwch i gael mynediad, cwblhau a chyflwyno eich ffurflen gais.
Cymorth ychwanegol
Mae llu o sefydliadau a chymdeithasau yn gweithio yn yr ardal sy’n trefnu gweithgareddau a digwyddiadau i blant ac oedolion drwy gyfrwng y Gymraeg.
Dysgu Cymraeg
Dewis o gyrsiau byr neu hir, yn ystod y dydd a chyda'r hwyr, ac amrywiaeth o weithgareddau i roi cyfle ichi ymarfer eich Cymraeg.
Rhieni dros Addysg Gymraeg RhAG
Mae RhAG yn cefnogi ac yn hyrwyddo addysg cyfrwng Cymraeg. Mae'n sicrhau cyfleoedd cyfartal i'r rhai sy'n dymuno i'w plentyn gael ei addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg.
Cymraeg i Rieni
Cyfeiriadur yw'r wefan hon sy'n cynnwys dolenni i amrywiaeth eang o adnoddau Cymraeg sydd ar gael ar nifer o wahanol lwyfannau digidol.
Urdd
Nod Urdd Gobaith Cymru yw sicrhau cyfleoedd a phrofiadau, drwy gyfrwng y Gymraeg, i bob plentyn a pherson ifanc. Mae hyn yn cynnwys teithiau preswyl, Eisteddfod, gweithgareddau a chlybiau chwaraeon, darpariaeth penwythnosau a gwyliau a llawer mwy.
Menter Bro Ogwr
Nod Menter Bro Ogwr yw hyrwyddo ac ehangu defnydd cymdeithasol o’r iaith Gymraeg o fewn y fwrdeistref sirol. Maent yn darparu darpariaeth gofal plant, clybiau wythnosol i ddisgyblion cynradd ac uwchradd, gweithgareddau teuluol, cyrsiau i oedolion a llawer mwy er mwyn cynnal a datblygu defnydd o'r Gymraeg fel iaith gymunedol fywiog.
Coleg Cymraeg Cenedlaethol
Mae’r Coleg yw gweithio gyda darparwyr i sicrhau a datblygu mwy o gyfleoedd astudio cyfrwng Cymraeg i ddisgyblion, myfyrwyr a phrentisiaid yng Nghymru.