Dalgylchoedd ysgolion
Gwybodaeth dalgylchoedd i ysgolion ledled Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Noder: Nid oes dalgylchoedd ar gyfer yr ysgolion cyfrwng Cymraeg na’r ysgolion ffydd yn y fwrdeistref sirol.
Chwilio am ysgolion cynradd
Rhowch eich côd post a rhif eich tŷ er mwyn chwilio am ysgolion cynradd o fewn eich dalgylch:
Chwilio am ysgolion uwchradd
Rhowch eich côd post a rhif eich tŷ er mwyn chwilio am ysgolion uwchradd o fewn eich dalgylch:
Ysgolion Cymraeg
Nid oes ardaloedd dalgylch ar gyfer ysgolion Cymraeg ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
Gall rhieini/gofalwyr wneud cais am le i’w plentyn mewn unrhyw ysgol Gymraeg yn y sir. Fodd bynnag, os bydd rhiant/gofalwr yn gwneud cais llwyddiannus am le mewn ysgol Gymraeg wahanol i’r ysgol Gymraeg agosaf i gartref y plentyn, ni fydd gan y plentyn hwnnw hawl i gael cludiant am ddim rhwng y cartref a’r ysgol honno.
I fedru hawlio cludiant ysgol, rhaid i gartref y plentyn fod yn fwy na dwy filltir o bellter cerdded o’r ysgol gynradd Gymraeg agosaf neu dair milltir o bellter cerdded o’r ysgol uwchradd Gymraeg agosaf.
Ysgolion ffydd
Nid oes ardaloedd dalgylch ar gyfer ysgolion ffydd ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
Gall rhieini/gofalwyr wneud cais am le i’w plentyn mewn unrhyw ysgol ffydd yn y sir. Fodd bynnag, dylai rhieni/gofalwyr nodi mai dim ond ceisiadau i Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Pen -y Fai y mae’r awdurdod lleol yn ymdrin â nhw. Mae pob ysgol ffydd arall ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn prosesu eu ceisiadau eu hunain.
Os bydd rhiant/gofalwr yn gwneud cais llwyddiannus am le mewn ysgol ffydd wahanol i’r ysgol ffydd agosaf i gartref y plentyn, ni fydd gan y plentyn hwnnw hawl i gael cludiant am ddim rhwng y cartref a’r ysgol honno.
I fedru hawlio cludiant ysgol, rhaid i gartref y plentyn fod yn fwy na dwy filltir o bellter cerdded o’r ysgol ffydd gynradd agosaf neu dair milltir o bellter cerdded o’r ysgol ffydd uwchradd agosaf.
Cysylltu
E-bostiwch unrhyw gwestiynau sydd gennych chi ynghylch dalgylchoedd atom: