Cynllun 'dim pas, dim teithio'
Mae gweithdrefn ‘dim pas, dim teithio’ yn parhau ar waith ar gyfer disgyblion ar gyfer Medi 2024.
Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i'ch plentyn gyflwyno ei docyn bws bob tro y bydd yn defnyddio'r bws ysgol. Bydd methu â chyflwyno tocyn dilys yn golygu y gwrthodir mynediad iddynt ar y bws ysgol. Mewn sefyllfa o'r fath, mae rhieni yn cymryd cyfrifoldeb llawn am eu plentyn a'i daith ymlaen.
Fodd bynnag, am bythefnos cyntaf y flwyddyn ysgol newydd, bydd y gofyniad ‘dim pas, dim teithio’ yn cael ei atal er mwyn caniatáu i ddisgyblion gasglu eu tocynnau bws o dderbynfa’r ysgol.
Os bydd tocyn eich plentyn yn cael ei golli, ei ddwyn neu ei ddifrodi, bydd angen i chi gysylltu â derbynfa’r ysgol, a fydd yn rhoi cyngor pellach i chi ar beth i’w wneud. Bydd tâl o £10 am docyn bws newydd, felly mae'n bwysig iawn bod eich plentyn yn cadw ei gerdyn yn ddiogel.