Grantiau Adfywio Strategol

Mae ein grantiau cyfredol yn cefnogi gwelliannau i unedau eiddo masnachol a fydd yn adfywio ac yn gwella:

  • Canol trefi (Pen-y-bont ar Ogwr, Porthcawl a Maesteg)
  • Canolfannau ardal (Abercynffig, Mynyddcynffig, Cwmogwr, Pencoed, Pontycymer a’r Pîl)
  • Canolfannau gwasanaethau lleol Cymoedd Garw, Llynfi ac Ogwr (Gogledd Betws, De Betws, Melin Ifan Ddu, Blaengarw, Caerau, Nant-y-moel a Phont-rhyd-y-cyff)

Pwrpas y gronfa:
Troi gofod llawr gwag ar y lloriau uchaf yn llety preswyl newydd. Isafswm y gofyniad ar gyfer pob cynllun yw 1 fflat hunangynhwysol gydag 1 ystafell wely.

Disgwylir i’r cynlluniau fod yn gymysgedd o unedau un a dwy ystafell wely gyda'r maint yn cael ei bennu gan y cynllun caniatâd adeiladu a chynllunio.

Dylai’r cynlluniau gydymffurfio â'r isafswm o arwynebedd llawr fel yr argymhellwyd yn y Safon Ansawdd Tai Cymru diweddaraf, sef: -

  1. 46m² i bob fflat un ystafell wely
  2. 59m² i bob fflat dwy ystafell wely

Nid yw llety myfyrwyr, fflatiau a stiwdios yn gymwys i gael cyllid grant.

Ardaloedd a gynhwysir:
Canol Trefi Pen-y-bont ar Ogwr, Maesteg a Phorthcawl

Cyfradd y Grant:
Hyd at 70% mewn amgylchiadau eithriadol

Cysylltwch â ni i wneud cais am ffurflen gais lawn:

Cyfeiriad ebost: Regeneration@bridgend.gov.uk

Pwrpas y gronfa:
Mae'r Grant Gwella Eiddo ar gael i feddianwyr a pherchnogion adeiladau masnachol yng nghanol trefi. Ei bwrpas yw gwella tu blaen adeiladau ynghyd ag uwchraddio gofod llawr masnachol gwag i'w adfer i ddefnydd busnes buddiol

Ardaloedd a gynhwysir:
Canol Trefi Pen-y-bont ar Ogwr, Maesteg a Phorthcawl

Cyfradd y Grant:
Hyd at 70% mewn amgylchiadau eithriadol

Cysylltwch â ni i wneud cais am ffurflen gais lawn:

Cyfeiriad ebost: Regeneration@bridgend.gov.uk

Pwrpas y gronfa:
Darparu seddi awyr agored, blychau plannu, gorchuddion, ardaloedd gweini a chanopïau adeiladau.

Ardaloedd a gynhwysir:
Canol Trefi Pen-y-bont ar Ogwr, Maesteg a Phorthcawl

Cyfradd y Grant:
Hyd at 50% mewn amgylchiadau eithriadol

Ffurflen Gais - Cymorth Masnachu Allanol Canol Trefi. 

Cysylltwch â Regeneration@bridgend.gov.uk i ofyn am ffurflen gais lawn.

Cysylltwch â ni i wneud cais am ffurflen gais lawn:

Cyfeiriad ebost: Regeneration@bridgend.gov.uk

Bydd hyn yn amodol ar adolygiad parhaus.

Pwrpas y gronfa:
Mae dwy elfen i hyn:

  1. Gwella tu blaen adeiladau a dod â gofod llawr masnachol gwag yn ôl i ddefnydd buddiol, trwy gefnogi gwelliannau i du blaen eiddo masnachol, ynghyd â gwaith allanol a mewnol arall.
  2. Troi gofod llawr uchaf gwag yn llety preswyl newydd uwchben unedau masnachol, gan gynnwys gwaith mewnol ac allanol i ddod â lle gwag yn ôl i ddefnydd at ddibenion preswyl.

Ardaloedd a gynhwysir: Canolfannau Ardal a Chanolfannau Gwasanaethau Lleol:

  • Abercynffig
  • Gogledd y Betws
  • De’r Betws
  • Caerau
  • Mynydd Cynffig
  • Cwm Ogwr
  • Pen-coed
  • Pontycymer
  • Y Pîl
  • Nant-y-moel
  • Blaengarw
  • Melin Ifan Ddu
  • Pontrhydycyff

Cyfradd y Grant:
Bydd y grant yn uchafswm o 80% o'r costau cymwys rhesymol, hyd at uchafswm grant o:

  • £30,000 ar gyfer eiddo sydd â phobl yn byw ynddo
  • £49,999 ar gyfer eiddo sydd wedi bod yn wag am fwy na 6 mis
Cyfeiriad ebost: regeneration@bridgend.gov.uk
Piggy bank

Cyswllt

Cyfeiriad ebost: Regeneration@bridgend.gov.uk

Chwilio A i Y

Back to top