Trwyddedu
Gwybodaeth, canllawiau a phrosesau a ffurflenni cais ar gyfer trwyddedu ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Ar gyfer ymholiadau cyffredinol, e-bostiwch:
Er mwyn rhedeg sefydliad llety cathod neu gŵn, bydd angen i chi gael trwydded gennym ni. Bydd y drwydded yn nodi faint o gŵn a chathod all gael llety ynghyd ag amodau penodol eraill.
Er mwyn awdurdodi cyflenwi alcohol ac adloniant rheoledig mewn clwb cymwys, bydd angen tystysgrif safle clwb arnoch.
Mae angen i chi gael trwydded i gadw rhai anifeiliaid yr ystyrir eu bod yn wyllt, yn beryglus neu’n egsotig.
Rydym yn dosbarthu trwyddedau ar gyfer adeiladau lle y bydd gamblo’n digwydd.
Er mwyn gwneud casgliadau elusennol o ddrws i ddrws yng Nghymru a Lloegr, mae’n rhaid i’r awdurdod lleol roi trwydded i chi.
Er mwyn dangos, arddangos neu berfformio gweithredoedd hypnoteiddio yng Nghymru a Lloegr, mae'n rhaid i'r awdurdod lleol eu hawdurdodi. Mae’n rhaid i chi gydymffurfio ag unrhyw amodau sydd ynghlwm ag awdurdodi.
I wneud cais am drwydded bersonol, dylai ymgeiswyr wneud cais i’r awdurdod lleol lle maent yn byw fel arfer.
Bydd awdurdodau trwyddedu petrolewm lleol yn rhoi trwyddedau i storio cyfansymiau mawr o betrol, neu i'w werthu a'i roi i danc tanwydd cerbyd.
Mae angen trwyddedau ar gyfer cysegru priodasau sifil a ffurfio partneriaethau sifil, yn ogystal â seremonïau anstatudol eraill pan gânt eu cyflwyno.
Yng Nghymru a Lloegr, mae ‘Trwydded Safle’ yn galluogi safle i weini alcohol, cynnig adloniant wedi ei reoleiddio a lluniaeth hwyr yn y nos.
Mae safle sydd yn cynnig llogi ceffylau neu ferlod i’w marchogaeth neu ar gyfer gwersi angen trwydded awdurdod lleol, yng Nghymru, Lloegr a’r Alban.
I fod yn fasnachwr metel sgrap, rhaid i chi gofrestru â’ch awdurdod lleol.
Mae sefydliadau rhyw yn cyfeirio at siopau rhyw, sinemâu rhyw a lleoliadau adloniant rhywiol. Maent yn cynnwys dawnsio gliniau, sioeau tynnu dillad a gweithgareddau dawnsio ar fyrddau ymysg pethau eraill.
Yn ôl y gyfraith, dylech gofrestru'r gweithgareddau hyn gyda ni: acwbigo, tatŵio, tyllu clustiau ac electrolysis.
I gasglu arian neu werthu nwyddau ar y stryd at ddibenion elusennol yng Nghymru a Lloegr, bydd angen trwydded casgliadau stryd arnoch chi gennym ni.
Os ydych yn masnachu ar y stryd, gallai fod angen caniatâd masnachu stryd arnoch.
Gwneud cais i yrru tacsi neu gofrestru cerbyd ar gyfer llogi preifat. Rydym yn argymell gwneud ceisiadau adnewyddu o leiaf chwech i wyth wythnos cyn y dyddiad terfyn.
Mae Hysbysiad Digwyddiad Dros Dro yn rhoi hawl i safle/clwb gyflenwi alcohol, adloniant rheoledig a lluniaeth hwyrnos dros dro.
Mae angen trwydded awdurdod lleol arnoch i weithredu sŵ yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban. Codir tâl am y drwydded a gellir cyflwyno amodau er mwyn sicrhau bod y sŵ yn cael ei weithredu mewn modd priodol.