Dewch yn Aelod Lleyg

Mae pedwar Aelod Lleyg yn gwasanaethu ar Bwyllgor Llywodraethu ac Archwilio’r Cyngor. Mae’r pwyllgorau statudol hyn yn rhan hollbwysig o raglenni gwella a fframweithiau llywodraethu Awdurdodau Lleol.

Diben y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio yw rhoi sicrwydd annibynnol ynglŷn â digonolrwydd ac effeithiolrwydd y fframwaith rheoli risg, yr amgylchedd rheoli mewnol, y trefniadau asesu perfformiad, y modd yr ymdrinnir â chwynion, a chywirdeb prosesau adrodd ariannol a phrosesau llywodraethu. Trwy oruchwylio gwaith archwilio mewnol ac allanol, mae’n gwneud cyfraniad pwysig at sicrhau bod trefniadau sicrwydd effeithiol ar waith.

Ar hyn o bryd, cynhelir cyfarfodydd hybrid sy’n galluogi aelodau’r pwyllgor i fynychu wyneb yn wyneb neu o bell – rhywbeth sy’n hwyluso Unigolion Lleyg i gymryd rhan yn y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio.

Mae’r Pwyllgor yn cyfarfod oddeutu chwe gwaith y flwyddyn ac mae Unigolion Lleyg (Aelodau Annibynnol) yn cael cydnabyddiaeth ariannol am fynychu’r cyfarfodydd.

Caiff y gydnabyddiaeth ariannol ei thalu yn unol â’r cyfraddau a bennir gan Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol. Gweler yr adroddiad sydd ynghlwm (adran 9, tudalennau 31-32). Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol - Adroddiad Blynyddol.

Swyddi gwag diweddaraf

  • Dim seddi gwag ar y funud

Ymgeisiwch i ddod yn Aelod Lleyg

Os oes gennych ddiddordeb neu brofiad mewn llywodraethu, archwilio, rheoli perfformiad neu reoli risg, ac yn dymuno helpu’r cyngor i sicrhau y caiff ei lywodraethu’n effeithiol, cwblhewch ffurflen gais:

Dychwelwch ffurflenni cais wedi'u cwblhau at:

Cyfeiriad ebost: Carys.Lord@bridgend.gov.uk

Chwilio A i Y

Back to top