Disgyblion cymwys ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i elwa yn sgil grantiau i helpu gyda phresenoldeb ysgol

Dydd Gwener 16 Awst 2024

Wrth i’r flwyddyn ysgol newydd nesáu, mae’r cyngor wedi cyhoeddi animeiddiad byr newydd sy’n tynnu sylw at yr adnoddau sydd ar gael i deuluoedd ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr sydd efallai’n ei chael hi’n anodd ymdopi â chostau ariannol mynychu’r ysgol.

Fel rhan o ymgyrch newydd i wella presenoldeb ysgol, nod yr animeiddiad yw gwella ymwybyddiaeth ynghylch y grantiau sydd ar gael i ddisgyblion cymwys, megis Grant Hanfodion Ysgol Llywodraeth Cymru, prydau ysgol am ddim, a’r Lwfans Cynhaliaeth Addysg. Mae’n rhoi gwybod am y cymorth ac arweiniad sydd ar gael i helpu gyda chostau allweddol, megis gwisg ac offer ysgol.

Mae Grant Hanfodion Ysgol Llywodraeth Cymru ar gael i rieni a gofalwyr disgyblion cymwys o’r Dosbarth Derbyn hyd at Flwyddyn 11. Mae disgyblion cymwys yn golygu’r rhai sydd â hawl i brydau ysgol am ddim ar hyn o bryd, oni bai fod eu cymhwystra wedi’i amddiffyn wrth bontio neu’n rhan o’r fenter gyffredinol prydau ysgol am ddim.

Gellir defnyddio’r grant i dalu am y canlynol:

  • gwisg ac esgidiau ysgol
  • offer a chit chwaraeon
  • gweithgareddau ysgol, gan gynnwys gwersi cerddorol, tripiau ysgol a chlybiau ar ôl ysgol
  • hanfodion ystafell ddosbarth, gan gynnwys beiros, pensiliau a bagiau ysgol
  • gliniadur neu ddyfais dabled os nad oes modd cael benthyg un o’r ysgol.

Bydd gan bob dysgwr cymwys hawl i grant o £125, a bydd disgyblion ym Mlwyddyn 7 yn cael £200 oherwydd cost uwch dechrau ysgol uwchradd.

Gall teuluoedd hawlio unwaith fesul plentyn, fesul blwyddyn ysgol. Mae cronfa 2024 i 2025 ar agor nawr a bydd yn cau ar 31 Mai 2025. Dylai rhieni a gofalwyr gyflwyno ffurflenni cais wedi’u cwblhau i’r ysgol y bydd eu plentyn yn ei mynychu ym mis Medi, neu gellir gwneud cais ar-lein drwy wefan y cyngor.

Caiff rhieni a gofalwyr hefyd hawlio prydau ysgol am ddim ar gyfer plant oed ysgol os ydynt yn cael budd-daliadau, gan gynnwys:

  • cymhorthdal incwm
  • lwfans ceisio gwaith seiliedig ar incwm
  • cymorth dan Ran VI Deddf Mewnfudo a Lloches 1999
  • lwfans cyflogaeth a chymorth seiliedig ar incwm
  • credyd treth plant (nid credyd treth gwaith) os nad yw eich incwm blynyddol yn fwy na £16,190.
  • credyd cynhwysol (ddim mewn gwaith) neu gredyd cynhwysol (mewn gwaith) lle nad yw eich enillion yn fwy na £7,400 o'ch cyflogaeth neu hunangyflogaeth.

Gall disgyblion a myfyrwyr sydd mewn addysg amser llawn ar ôl troi’n 16 mlwydd oed hefyd fod yn gymwys i wneud cais am Lwfans Cynhaliaeth Addysg. Mae'r cynllun yn seiliedig ar incwm aelwyd, a gellir cael mwy o wybodaeth drwy gysylltu â’r ysgol unigol neu Cyllid Myfyrwyr Cymru.

O fis Medi 2024 ymlaen, bydd y fenter gyffredinol Prydau Ysgol am Ddim i Ysgolion Cynradd yn cael ei chyflwyno’n raddol i ddisgyblion ym Mlwyddyn 6. Mae hynny’n golygu y bydd gan bob plentyn o’r Dosbarth Meithrin i Flwyddyn 6 yn ysgolion y fwrdeistref sirol hawl i gael pryd bwyd ysgol am ddim.

Lansiwyd y fenter yn 2022 i helpu i leihau baich yr argyfwng costau byw ar deuluoedd, ac atgoffir rhieni a gofalwyr disgyblion sydd ym Mlwyddyn 6 nad oes angen iddynt wneud cais, gan y bydd y ddarpariaeth ar gael yn awtomatig i’r disgyblion.

Gall rhieni a gofalwyr weld yr animeiddiad a chael mwy o wybodaeth am y grantiau sydd ar gael, gan gynnwys y meini prawf llawn, ar ein gwefan.

"Mae grantiau ariannol a chyllid yno i ddarparu cymorth hanfodol i rieni a gofalwyr, ac rwy’n annog teuluoedd i fanteisio arnyn nhw, a lleihau rhywfaint ar y costau ariannol sy’n gallu cael effaith niweidiol ar gyfraddau presenoldeb ysgol." "Siaradwch â’ch ysgol i gael cymorth a chyngor. Mae cymorth hefyd ar gael gan elusennau fel Turn2Us, gan fanciau bwyd ar hyd a lled y fwrdeistref sirol, a thrwy grantiau pellach - gan gynnwys y Gronfa Cymorth Dewisol." "Drwy leihau’r pwysau a ddaw yn sgil costau sy’n gysylltiedig ag addysg, gallwn helpu i sicrhau presenoldeb ysgol cyson, gan gynnig cyfleoedd o ran addysg a gwaith yn y dyfodol i blant, yn ogystal ag effaith gadarnhaol ar eu hiechyd a’u llesiant."

Chwilio A i Y

Back to top