Cymorth gyda Chostau Byw
Gyda’r cynnydd mewn costau byw, rydym yn deall bod pawb efallai angen ychydig o gefnogaeth ychwanegol gyda chostau yn ystod y cyfnod hwn. Rydym wedi creu rhestr o gymorth ariannol a gostyngiadau y gallech fod yn gymwys i’w cael.
Gallwch hefyd ddefnyddio ein cyfrifiannell budd-daliadau ar-lein i weld pa fudd-daliadau allech fod yn gymwys i’w cael. Peidiwch â chymryd yn ganiataol nad ydych yn gymwys i gael unrhyw beth. Byddwch angen gwybodaeth am eich cynilon, incwm, pensiynau, taliadau gofal plant ac unrhyw fudd-daliadau rydych eisoes yn eu cael (ar gyfer chi a’ch partner).


Y Dreth Gyngor
Gwybodaeth am y mathau gwahanol o gymorth a gostyngiadau sydd ar gael ar gyfer talu’r dreth gyngor.
Mae’r budd-dal yma o help i bobl ar incwm isel dalu eu treth gyngor. Rydych chi’n gymwys os ydych chi’n hawlio lwfans ceisio gwaith neu gymhorthdal incwm, neu os yw eich incwm yn is na lefel benodol.
Hefyd, rydych chi’n gymwys os ydych chi’n cael credyd cynhwysol.
Gallwch wirio eich cymhwysedd ar y ffurflen ar Fy Nghyfrif ‘Gwneud Cais am Fudd-dal Tai a Gostyngiad Treth Gyngor’.
Os ydych yn gymwys i gael gostyngiad a’ch bod heb wneud cais, gallwch wneud hynny ar-lein.
- Os mai dim ond un oedolyn sy'n byw mewn eiddo, mae yna ostyngiad o 25% ar gael
- Gostyngiad ar gyfer nam meddyliol difrifol
- Gallai gostyngiad o 25% neu 50% fod ar gael ar gyfer:
- myfyrwyr llawn amser, myfyrwyr nyrsio, rhai sy’n gwneud hyfforddiant ieuenctid a phrentisiaid
- cleifion mewnol mewn ysbyty
- pobl sy'n cael gofal mewn cartrefi gofal
- pobl â nam meddyliol difrifol
- pobl sy'n aros mewn rhai hosteli neu llochesi nos
- pobl ifanc 18 a 19 oed sydd yn yr ysgol neu sydd newydd adael yr ysgol
- gweithwyr gofal ar gyflog isel sydd fel arfer yn cael eu cyflogi gan elusen
- pobl yn y carchar
- aelodau o gymunedau crefyddol - mynachod neu leianod
- pobl sy'n gofalu am rywun ag anabledd nad yw'n briod, yn bartner, neu’n fab neu ferch o dan 18 oed.
Os yw eich eiddo chi wedi cael ei addasu oherwydd anabledd rhywun sy’n byw ynddo, efallai eich bod yn gymwys i gael gostyngiad yn eich treth gyngor.
I gymhwyso, mae’n rhaid i’r eiddo fod ag o leiaf un o’r canlynol:
- cegin neu ystafell ymolchi ychwanegol a ddefnyddir yn bennaf gan y person anabl
- digon o ofod llawr i ddefnyddio cadair olwyn
- ystafell sy’n cael ei chadw i ddiwallu anghenion person anabl, fel ystafell a ddefnyddir ar gyfer dialysis

Cymorth Addysg
Gwybodaeth ac arweiniad ynghylch y grantiau sydd ar gael ar gyfer disgyblion cymwys ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Os ydych yn byw ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ac yn cael unrhyw un o'r budd-daliadau canlynol, gallwch hawlio prydau ysgol am ddim ar gyfer eich plentyn oedran ysgol.
Os ydych chi'n riant neu'n warcheidwad i blentyn yn yr ysgol, efallai eich bod yn gymwys i dderbyn grant i'ch helpu chi i dalu am eitemau hanfodol ar eu cyfer.
Mae lwfans tuag at gost dillad ysgol nodedig ar gael i ddisgyblion sy'n mynychu ysgolion uwchradd.
Mae lwfansau'n daladwy ar ddechrau pob blwyddyn yn ystod pum mlynedd y plentyn yn yr ysgol uwchradd.
Mae Lwfans Cynhaliaeth Addysg yn daladwy i ddisgyblion a myfyrwyr sydd mewn addysg llawn amser ar ôl 16 oed. Mae’n seiliedig ar incwm y cartref.

Cymorth Bwyd
Rydym wedi creu rhestr o leoedd sy’n darparu parseli neu becynnau bwyd.
Cynnig cymorth cymunedol a chefnogaeth drwy ei phrosiectau cymunedol
Clwb cinio am ddim, dydd Llun i ddydd Gwener rhwng 11:30am a 1:30pm
Bagiau pantri £3 a £5 yn ddyddiol
System atgyfeirio talebau. Gwerth tri diwrnod o fwyd mewn argyfwng.
- Eglwys Bedyddwyr Hope, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 1EA:
Dyddiau Mawrth 12pm - 2pm / Dyddiau Gwener 11am - 2pm - Canolfan Gymunedol Noddfa, Caerau, CF34 0PB:
Dydd Mawrth 10am - 12pm - Canolfan Gymunedol Corneli, CF33 4LW:
Dyddiau Iau 1pm - 3pm - Canolfan Iechyd a Llesiant, Neath Road, Maesteg, CF34 9EE:
Dyddiau Mercher 10:30am - 2:30pm - His Place, Pontycymmer, CF32 8DE:
Dyddiau Mercher 1:30pm - 3:30pm - The Y Centre, Porthcawl, Porthcawl, CF36 3AP:
Dyddiau Mawrth ac Iau 10am - 12pm - Neuadd Eglwys Dewi Sant, Pencoed, CF35 6SG:
Dyddiau Llun 1pm – 3pm
Bwyd fforddiadwy o ansawdd dda. £5 y bag.
Ar gyfartaledd, mae bagiau yn cynnwys hyd at 15 o eitemau i helpu i lenwi eich cypyrddau a chreu prydau.
- Canolfan Lee Evans, Abercynffig, CF32 9RF:
Dyddiau Gwener 10am - 12pm - Canolfan Gymunedol William Trigg, Blaengarw CF32 8AQ:
Dyddiau Iau 10am - 12pm - Pantri symudol yn nhabernacl Bracla, CF31 2DN:
Dyddiau Iau 2pm - 2:30pm - Hwb Cymunedol Bryntirion, CF31 4EF:
Dyddiau Iau 9:30am - 11am - Ysgol Abercerdin, Kenry Street, CF39 8RS:
Dydd Gwener 8:30am – 1pm - Cwm Calon, Maesteg, CF34 9UN:
Dyddiau Gwener 9:30am -11am - Ieuenctid KPC, y Pîl, CF33 6AB:
Dyddiau Mercher 2:45pm - 4:15pm - Tŷ Cymdeithasau Tenantiaid a Phreswylwyr, Lewistown, CF£2 7LP:
Dyddiau Mercher 1:30pm – 2pm - Clwb Bowls Wyndham, Rhes y Waun Fach, CF32 7PR:
Dyddiau Iau 10am - 10.30am - Neuadd Llesiant Glowyr Pencoed CF35 5PE:
Dyddiau Iau 2pm - 4pm - Canolfan Gymunedol y Felin-wyllt, Tairfelin, CF31 1SP:
Dyddiau Mercher 4:30pm – 6pm - Ysgol Hengastell, Stryd y De, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 3ED:
Pob diwrnod yn ystod oriau ysgol.
Ar agor yn ystod amrywiaeth o ddyddiadau ac amseroedd. Yn gwasanaethu eu hysgolion lleol/ disgyblion a rhieni. Ffoniwch cyn mynychu.
- Ysgol Gynradd Abercerdin: 01656 815535
- Ysgol Gynradd Bracla: 07792465296
- Ysgol Babanod Bryntirion: 01656 815860
- Ysgol Gyfun Bryntirion: 01656 641100
- Ysgol Gynradd Corneli: 01656 754870
- Ysgol Gynradd Cwmfelin: 07588332342
- Ysgol Gynradd y Garth: 0165 815590
- Ysgol Gynradd Llidiard: 07484220539
- Ysgol Gynradd Llangynwyd: 01656 815565
- Ysgol Gynradd Nantyffyllon: 01656 815740
- Ysgol Gynradd Nantymoel: 01656 815670
- Ysgol Gynradd Notais: 01656 815540
- Ysgol Gynradd Penybont: 01656 754860
- Ysgol Gynradd Tremaen: 01656 815900
- Ysgol Cynwyd Sant: 01656 815615
Darparu cefnogaeth i gymuned Pen-y-bont ar Ogwr, sy’n ceisio lleihau effaith tlodi a diweithdra ac i hyrwyddo cynhwysiant cymdeithasol.
Yn rhedeg y caffi cymunedol a’r oergell gymunedol.
Mae aelodaeth £1 yn eich galluogi i brynu bag bob wythnos am £5
Pryd cinio tri chwrs: £5
Brecwast teuluol wedi’i gynnal gan wirfoddolwyr o grŵp Cenhadaeth Margam a Margam Ministry Area.
Pantri cymunedol i gynorthwyo eich siopa bwyd.
Ffi aelodaeth o £2
Rhannu bwyd dros ben o archfarchnadoedd i'r gymuned am ddim.
Banc Cymorth Babanod ar gyfer teuluoedd ifanc

Cefnogaeth yn y Cartref
Gwybodaeth am gefnogaeth sydd ar gael i gynorthwyo gyda chostau tai ac ynni.
Os ydych ar incwm isel, yn ddi-waith neu’n methu gweithio, efallai y gallwch gael cymorth gyda’ch costau byw. Gwirio i weld a ydych yn gymwys i gael Credyd Cynhwysol.
Os ydych ar incwm isel, efallai y gallwch gael cymorth i dalu eich rhent i landlord cymdeithasol.
Mae hwn yn helpu i dalu rhent i landlord preifat.
Nod y Cynllun Cymorth Dewisol yw helpu'r holl aelwydydd cymwys y nodwyd bod angen cymorth ariannol arnynt fwyaf yn ystod yr argyfwng costau byw.

Hybiau Cynnes
Mae Hwb Cynnes yn ardal gynnes a diogel lle y gall breswylwyr fwynhau diod gynnes a/neu fwyd, ychydig o weithgareddau a chael y cyfle i gyfarfod a chymdeithasu yn ystod tymor y gaeaf.
Ewch i wefan BAVO i ddod o hyd i’ch Hwb Cynnes lleol.
I chi allu dod o hyd i’ch hwb lleol, mae gwahanol ardaloedd yn y sir wedi’u categoreiddio.
Dolenni Defnyddiol
- Mae Step Change yn cynnig cyngor arbenigol ar ddyled ac yn cynnig datrysiadau ymarferol i ddelio â dyled, yn rhad ac am ddim.
- Mae’r Gwasanaeth Cyngor Ariannol, Ask Ma, yn wasanaeth diduedd, rhad ac am ddim sy'n cynnig cyngor a chymorth fel y gall pobl wneud y gorau o'u harian.
- Mae Undeb Credyd Pen-y-bont ar Ogwr, Bridgend Lifesavers, yn cynnig cynilion, benthyciadau a chynhyrchion ariannol eraill i bobl sydd fel arfer wedi’u heithrio gan fanciau neu gymdeithasau adeiladu’r stryd fawr.
- Mae Cyngor ar Bopeth yn rhoi cyngor am ddim ac yn helpu i ddatrys problemau gyda dyled, materion defnyddwyr, budd-daliadau, tai, materion cyfreithiol, cyflogaeth, a mewnfudo.
- Mae Age Concern Morgannwg Ltd yn elusen sy'n gwella ansawdd bywyd pobl hŷn ym Mwrdeistrefi Sirol Rhondda Cynon Taf, Pen-y-bont ar Ogwr a Merthyr Tudful.