Teithio Llesol

Cerdded neu feicio teithiau byr bob dydd yw Teithio Llesol. Mae’n cynnwys teithio i’r ysgol, gwaith, gwasanaethau a hybiau trafnidiaeth. Hefyd, gall gynnwys defnyddio cadeiriau olwyn trydanol neu sgwteri symudedd.

Nid yw’n cynnwys teithiau hamdden yn unig, na rhai at ddibenion cymdeithasol.

Llwybrau

Mae’r llwybrau canlynol yn wych ar gyfer Teithio Llesol. Maent ar y 'Mapiau Llwybr Presennol', sy’n dangos manylion y llwybrau Teithio Llesol a gymeradwywyd gan Lywodraeth Cymru.

Nid yw’r mapiau hyn yn dangos pob llwybr cerdded neu feicio mewn ardal, dim ond y rhai rydym wedi eu pennu fel rhai addas ar gyfer Teithio Llesol.

Edrychwch ar y Map Trosolwg i weld yr holl ardaloedd a’r llwybrau sydd yn y Mapiau Llwybrau Presennol ar gyfer yr anheddau:

Cymeradwywyd y llwybr teithio llesol arfaethedig ar hyd rhan o Heol y Bont-faen, fel rhan o gynllun teithio llesol Waterton i Ben-y-bont ar Ogwr, gan y Cabinet ar 22 Mehefin 2021.

Mae'r cynllun yn cynrychioli cyfleusterau teithio llesol parhaol, gan gynnwys gwell cyfleusterau croesi, lledu llwybrau cerdded i fod yn llwybrau cerdded/beicio a rennir a chyfyngu ymhellach ar y terfyn cyflymder ar hyd Heol y Bont-faen.

Cynigion Llwybrau’r Dyfodol

Mae gennym hefyd gynlluniau manwl ar gyfer rhwydwaith o lwybrau a chyfleusterau Teithio Llesol dros y 15 mlynedd nesaf. Mae’r rhain ar ein Mapiau Rhwydwaith Integredig.

Nodau’r cynigion yw:

  • gwella mynediad at wasanaethau allweddol yn cynnwys canol trefi, hybiau trafnidiaeth yn ogystal â chyflogaeth ac ardaloedd manwerthu
  • datblygu mynediad at gyfleusterau addysg megis ysgolion a cholegau
  • gwella ac ehangu’r rhwydwaith strategol presennol ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Mae gweithredu cynigion y Mapiau Rhwydwaith Integredig yn dibynnu ar gyllido. Hefyd, mynegol yw cynigion y Mapiau Rhwydwaith Integredig ac mae’n bosibl y newidiant wrth i’r cynlluniau ddatblygu.

Adroddiadau Blynyddol

Mae’n rhaid i ni gynhyrchu adroddiadau blynyddol yn nodi:

  • camau gweithredu o’r flwyddyn ariannol gynt i hyrwyddo Teithio Llesol
  • costau llwybrau a chyfleusterau Teithio Llesol newydd neu well
  • lefelau defnyddio llwybrau Teithio Actif

Ein cyfrifoldebau cyfreithiol

Ym mis Medi 2014, cyflwynodd Llywodraeth Cymru  Deddf Teithio Llesol (Cymru)

Mae’r mesur hwn yn rhoi gofyn cyfreithiol ar awdurdodau lleol Cymru i fapio a chynllunio llwybrau addas ar gyfer Teithio Llesol mewn rhai ardaloedd, fel y noda Llywodraeth Cymru - Ardaloedd dynodedig ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont yr Ogwr.

Roedd cam cyntaf y Ddeddf yn gofyn i ni gynhyrchu Mapiau Llwybrau Presennol. Wedi ymgynghoriad cyhoeddus 16 wythnos, bu i ni gyflwyno ein mapiau drafft Llwybrau Presennol ym mis Ionawr 2016 a chadarnhaodd Llywodraeth Cymru nhw ar 12 Awst 2016.

Mae llwybrau’r mapiau wedi eu hasesu yn ôl safonau Llywodraeth Cymru. Er bod rhan fwyaf y llwybrau’n bodloni’r canllaw ac yn addas ar gyfer Teithio Llesol, methodd rhai â tharo deuddeg o fymryn. Fodd bynnag, rydym yn dal i ystyried bod y canlynol yn bwysig ar gyfer Teithio Llesol. Darllenwch ein Datganiad Map Llwybrau Presennol am eglurhad o pam y mae’r llwybrau hyn yn briodol.

Ar gyfer ail gam y Ddeddf, bu i ni gynhyrchu Mapiau Rhwydwaith Integredig. Wedi ymgynghoriad cyhoeddus 12 wythnos, bu i ni gyflwyno ein Mapiau drafft ym mis Tachwedd 2017 a chymeradwyodd Llywodraeth Cymru nhw ar 27 Chwefror 2018.

A road marking depicting a bicycle and a parent and child

Cysylltu

Cyfeiriad: Tîm Polisi a Datblygu, Gwasanaethau’r Strydlun, Cyfarwyddiaeth Cymunedau, Swyddfeydd Dinesig, Pen-y-Bont ar Ogwr, CF31 4WB.
Ffôn: 01656 642528

Chwilio A i Y

Back to top