Parc Bedford

Mae gan y Parc yma ryw 18 hectar o ofod gwyrdd a gweddillion Gwaith Haearn Cefn Cribwr o’r 18fed Ganrif.

Mae gan y Safle o Ddiddordeb ar gyfer Cadwraeth Natur (SDdCN) gymysgedd o gynefinoedd.

Coetir llydanddail yw’r rhain yn bennaf gyda phorfeydd brwyn, gwellt y gweunydd, llwyni, rhedyn, afonydd a phyllau.

Mae rhan o’r SDdCN, ‘Waun Cimla’, yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) oherwydd ei gynefinoedd corsiog, y planhigion prin sydd yno a glöyn byw britheg y gors.

Hefyd, mae pathewod wedi’u cofnodi yma, sy’n ei wneud yn un o’r ychydig safleoedd ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr sy’n cynnwys y rhywogaeth yma sydd dan warchodaeth yn Ewrop.

Cyfeiriad: Parc Bedford, Cefn Cribwr, Pen-y-bont ar Ogwr, CF32 0BW.

Ceidwad y Gorffennol

Un o’n cerfluniau derw ‘Ceidwaid Natur’ yw ‘Ceidwad y Coed’. Maent yn ychwanegu diddordeb at ein llecynnau harddwch a gyda’r cerddi sy’n cyd-fynd, maent yn dal dychymyg yr ymwelwyr iau drwy ryngblethu mytholeg yn y safleoedd.

Y nod yw tanio cyswllt emosiynol â’n gofod gwyrdd ni, ac felly annog pobl i ymweld, yn ogystal â gofalu mwy amdanynt. Mae pump o’r cerfluniau ym Mharc Gwledig Bryngarw ac mae 10 mewn mannau eraill ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

Chwilio A i Y

Back to top