Natur gartref

Mwynhewch amrywiaeth o weithgareddau yn seiliedig ar natur tra’n archwilio y fwrdeistref sirol neu o’ch gardd eich hun.

Mae’r gweithgareddau a’r adnoddau hyn yn hawdd i’w defnyddio, yn rhad ac yn addas i bawb.

Bee
Butterfly

Helpu Natur yn yr Ardd

Mae yna nifer o ffyrdd y gallwch helpu natur gartref ac yn eich ardal gyfagos

  • Bwydo a rhoi dŵr i’r adar - Ffordd gyflym a hawdd i wneud eich gardd yn fwy deniadol i adar yw i ddarparu bwydwr hadau a dŵr ffres, fel bath adar, neu unrhyw gynhwysydd gyda dŵr ffres - RSPB - Beth i fwydo adar

  • Plannu a thyfu planhigion sy’n gyfeillgar i loÿnnod byw - Rhai planhigion sy’n boblogaidd gyda gloÿnnod byw a’u lindys yw gwyddfid cyffredin, lafant Seisnig, danadl poethion a helyg - Cadwraeth Gloÿnnod Byw - Garddio ar gyfer Gloÿnnod Byw

  • Compost - Mae creu tomen gompost yn yr ardd yn ffordd wych i gael gwared â gwastraff cegin, ac yn creu cynefin i’r holl bryfetach! Bydd infertebratau fel nadroedd miltroed, pryfed lludw, pryfed genwair a phryfed cop yn defnyddio’ch compost - Compostio RHS

Gellir cael mwy o wybodaeth ar sut i helpu bywyd gwyllt gan yr Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt a’r Prosiect Gardd Bywyd Gwyllt.

Chwilio A i Y

Back to top