Dolenni cysylltiedig
- Eiddo gwag
- Digartrefedd
- Addasu ac atgyweirio tai
- Cynllun Lesio Cymru
- Rheoli plâu
- Y Gyfrifiannell Amser Aros
Mae cofrestriadau ar gyfer Casgliadau Gwastraff yr Ardd 2025/26 nawr ar agor – Cofrestrwch ar-lein
Mae pedair prif gymdeithas dai Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn defnyddio un gofrestr tai er mwyn neilltuo tai cymdeithasol. Yr enw ar y gofrestr yma yw Cofrestr Tai Cyffredin Pen-y-bont ar Ogwr.
Gall unrhyw un wneud cais am dai rhent cymdeithasol.
Yn gyffredinol, rhaid i chi fod yn gymwys ac mewn angen tŷ er mwyn cael eich ychwanegu at y gofrestr.
Hefyd gallech gael eich ychwanegu os ydych eisiau byw mewn ardal galw isel, neu os ydych yn bodloni gofynion y Polisi Gosod Lleol.
Mae'r Polisi Dyrannu Tai Cymdeithasol yn manylu ar beth sy’n cyfrif fel angen am dŷ ar dudalennau wyth a naw, ac mae’n esbonio sut mae tai rhent cymdeithasol yn cael eu neilltuo.
Os na chewch eich ychwanegu at y gofrestr tai cyffredin, byddwn yn rhoi cyngor i chi am yr opsiynau eraill sydd ar gael i chi efallai o ran tai. Hefyd gallwch ofyn i ni adolygu ein penderfyniad.
I gofrestru, ewch i’n gwefan tai i greu cyfrif. Mae gwneud cais ar-lein yn golygu y gallwch weld eich statws cais yn rhwydd.
Bydd gwneud hynny’n eich arbed rhag gorfod ffonio neu ymweld â’r Swyddfeydd Dinesig, ac mae gwneud cais ar-lein yn golygu y gallwch weld statws eich cais yn hwylus.
Byddwch yn cael gwybod yn gyflym am unrhyw wybodaeth y bydd rhaid i chi ei rhoi i ni efallai. Gallwch ddiweddaru eich manylion cysylltu ar-lein hefyd fel ein bod yn gwybod sut i gysylltu â chi pan ddaw eiddo ar gael.
Hefyd mae ailgofrestru’n haws ar-lein. Mae’r broses yn awtomatig ac mae’n haws i ymgeiswyr ymateb i ni. Mae ailgofrestru’n rheolaidd yn bwysig oherwydd mae’n sicrhau eich bod yn cael y flaenoriaeth briodol ar gyfer eich anghenion tai cyfredol.
Ar gyfer pobl sy’n methu defnyddio’r rhyngrwyd, mae cyfweliadau wyneb yn wyneb neu dros y ffôn ar gael o hyd.
Gallwch amcangyfrif faint o amser fydd raid i chi ei aros am dŷ cymdeithasol gan ddefnyddio’r ddolen uchod. Mae pobl yn synnu’n aml at gyn lleied o eiddo sydd gan gymdeithasau tai ar gael i’w gosod, a pha mor hir yw’r rhestr aros. Mae’r telerau’n esbonio sut mae’r gyfrifiannell yn gweithio a bydd rhaid i chi gytuno iddynt cyn ei defnyddio.
Gall y gyfrifiannell amser aros ddweud y canlynol wrthych chi:
Yn anffodus ni allwn gynnig tŷ i bawb drwy’r gofrestr tai. Mae prinder tai cymdeithasol a rhaid i ni eu neilltuo yn ôl angen.
Mae llawer o opsiynau eraill os ydych chi’n chwilio am dai fforddiadwy. Gallech roi cynnig ar y canlynol: