Prydau ysgol

Bwydlenni ysgol a gwybodaeth ar gyfer ysgolion yn y fwrdeistref sirol.

Mae dyddiau gyda 'themâu' arbennig yn cael eu cynnal drwy gydol y flwyddyn. Mae'r dyddiau yma yn boblogaidd gyda phlant sy'n mwynhau rhoi cynnig ar wahanol brydau o bob rhan o'r byd, ac mae'r fwydlen gyda thema yn cael ei chynnig yn lle'r fwydlen arferol ar gyfer y diwrnod hwnnw.

Mae nifer o fuddion i blant sy'n cael cinio ysgol:

  • Mae'r prydau'n ffres, yn iach ac yn gytbwys o ran maeth.
  • Mae ein bwydlenni'n llawn ffrwythau a llysiau.
  • Cyfleustra. Does dim angen paratoi pecyn bwyd.
  • Rhoi hwb i allu meddyliol plant. Mae astudiaethau wedi dangos bod plant yn dysgu'n well yn y dosbarth os ydynt wedi cael pryd sylweddol amser cinio.
  • Gall plant ddysgu sut i ddewis prydau iach.
  • Mae caffeterias yn llefydd y gall plant ymlacio gyda ffrindiau mewn amgylchedd diogel, wedi'i oruchwylio.
School meal

Prydau Ysgol Gynradd

Mae pob disgybl ysgol yn y fwrdeistref sirol bellach yn gymwys i gael prydau ysgol gynradd am ddim cynhwysol. Mae'r cynllun yn rhan o fenter Prydau Ysgol Gynradd am Ddim Cynhwysol Llywodraeth Cymru.

Atgoffir rhieni a gofalwyr disgyblion cynradd nad oes angen gwneud cais, gan y bydd disgyblion yn cael y ddarpariaeth yn awtomatig.

Prydau Ysgol Uwchradd

Mewn ysgolion uwchradd mae disgyblion yn prynu bwyd yn y caffeterias.

Mae'r caffeterias yn cael eu hadnabod fel 'Trackers' ac maent yn cynnig gwerth gwych am arian.

Mae tair ardal fwyd neu 'draciau' i ddewis ohonynt: y bar salad, prydau ysgafn, a prif brydau. Mae yna hefyd fyrbrydau ar gael ym Marrau Deffro yn y Bore yr ysgol, yn ystod egwyl ganol y bore neu o beiriannau gwerthu.

School catering staff

Mae ein gwasanaethau arlwyo yn ehangu - ymunwch â'n tîm!

Mae hi’n amser cyffrous i ddod yn aelod o’n gwasanaethau arlwyo, wrth i ni barhau i gyflwyno’r fenter Prydau Ysgol Gynradd Am Ddim i 51 ysgol ledled Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

Mae ein staff yn allweddol i’n gwasanaethau, ac rydym yn falch eu bod wedi eu cydnabod am ddarparu gwasanaeth rhagorol i blant ledled y fwrdeistref sirol, gan gynnwys eu ceginau a raddwyd yn 5 seren o ran hylendid, ac ennill gwobrau ledled y wlad.

Cyfraith Natasha 2021

O 1 Hydref 2021 daeth deddfwriaeth newydd a elwir yn Gyfraith Natasha i rym.  Mae'r ddeddfwriaeth newydd yn berthnasol i unrhyw fusnes bwyd a fyddai'n darparu bwyd wedi'i becynnu ymlaen llaw ar gyfer ei werthu’n uniongyrchol (PPDS) gan gynnwys ysgolion cynradd ac uwchradd, prifysgolion a meithrinfeydd sy'n darparu bwyd.

Ar gyfer bwyd a ddarperir mewn lleoliad ysgol, golygai hyn newidiadau i labelu brechdanau a bagéts yn unig, gan fod y rhain yn cael eu gwneud a'u pecynnu ymlaen llaw ar y safle cyn i'r cwsmer eu harchebu.  Rhaid pwysleisio cynhwysion alergenaidd ar y rhestr labelu.

Nid yw PPDS yn cynnwys bwyd na chaiff ei roi mewn deunydd pecynnu.  Nid yw bwyd a roddir mewn deunydd pecynnu neu ei roi ar blât ar gais y pobl fydd yn ei fwyta yn PPDS.

Chwilio A i Y

Back to top