Newyddion
Cymerwch gipolwg ar y newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Mae'r rhestr hon newyddion ar hyn o bryd gael ei hidlo gan Ionawr 2023 Dileu hidlydd
Y cyngor yn rhoi cynlluniau ar waith i gefnogi plant ar eu pennau eu hunain sy’n geiswyr lloches
Dydd Mawrth 31 Ionawr 2023
Mae cynlluniau i ddarparu gofal a llety â chymorth ar gyfer plant sy’n ceisio lloches ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, wedi symud gam ymlaen.
Ysgolion lleol wedi’u heffeithio gan gynlluniau gweithredu diwydiannol
Dydd Llun 30 Ionawr 2023
Mae’r Undeb Addysg Cenedlaethol (NEU) wedi cyhoeddi pedwar diwrnod o weithredu diwydiannol arfaethedig ar gyfer ei aelodau. Os yw cynlluniau’n mynd rhagddynt, bydd ysgolion ledled y fwrdeistref sirol yn cael eu heffeithio
Goleuo swyddfeydd y Cyngor i nodi Diwrnod Cofio’r Holocost
Dydd Gwener 27 Ionawr 2023
Bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn nodi Diwrnod Cofio’r Holocost eleni drwy oleuo prif adeilad y cyngor heno, ac yn annog trigolion i ymuno â’r Maer a goleuo cannwyll gofio gartref.
Cabinet yn cymeradwyo polisi i fynd i'r afael ag ymddygiad afresymol tuag at staff
Dydd Iau 26 Ionawr 2023
Mae'r cabinet wedi cymeradwyo polisi diwygiedig Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i fynd i'r afael ag ymddygiad afresymol, yn cynnwys ymddygiad achwynwyr blinderus, gan aelodau o'r cyhoedd.
Cabinet yn cymeradwyo Cynllun Gweithredu Cyfleoedd Chwarae'r cyngor
Dydd Iau 26 Ionawr 2023
Mae Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi cymeradwyo'r Cynllun Gweithredu Cyfleoedd Chwarae ar gyfer 2022-2024. Nod y cynllun yw cyflawni'r cyfleoedd chwarae gorau i blant a phobl ifanc mewn ystod eang o weithgareddau ar draws y fwrdeistref sirol.
Caffi Trwsio Cymru yn dangos sut y gallwn fyw yn fwy cynaliadwy
Dydd Iau 26 Ionawr 2023
Gweledigaeth Caffi Trwsio Cymru yw 'cymdeithas sydd wedi'i grymuso i gydweithio i leihau gwastraff, rhannu sgiliau, a chryfhau ein cymunedau'.
Ymdrech gymunedol i godi arian i blant agored i niwed ym Mhen-y-bont ar Ogwr
Dydd Iau 26 Ionawr 2023
Cydweithiodd disgyblion yn Ysgol Gyfun Brynteg gydag Eglwys y Tabernacl a busnesau ac elusennau lleol, i godi arian i brynu anrhegion i blant a phobl ifanc agored i niwed, a fyddai fel arall ddim wedi cael anrhegion Nadolig.
'Nawr yw'r Amser' i fod yn Ofalwr Maeth ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Dydd Mercher 25 Ionawr 2023
Mae ymgyrch newydd ‘Nawr yw'r Amser’, wedi ei lansio gan Faethu Cymru, y rhwydwaith cenedlaethol o 22 gwasanaeth maethu o Awdurdodau Lleol Cymru.
Cytuno ar Gynllun Gostwng y Dreth Gyngor 2023-2024
Dydd Llun 23 Ionawr 2023
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi cytuno i fabwysiadu Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor ar gyfer 2023-2024, sy'n cynnwys elfen ddewisol er mwyn sicrhau bod trigolion cymwys yn cael cymaint o gymorth â phosibl.
Aelodau'r Cabinet yn trafod Strategaeth Ariannol Tymor Canolig
Dydd Gwener 20 Ionawr 2023
Cyfarfu Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i drafod Strategaeth Ariannol Tymor Canolig arfaethedig yr awdurdod ar gyfer 2023-24 i 2026-27.