Newyddion

Cymerwch gipolwg ar y newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

Mae'r rhestr hon newyddion ar hyn o bryd gael ei hidlo gan Ionawr 2025 Dileu hidlydd

Y Prif Weinidog yn cyfarfod â disgyblion o’r gwahanol ddosbarthiadau yn Ysgol Gynradd Afon y Felin

Y Prif Weinidog yn ymweld ag Ysgol Gynradd Afon y Felin

Dydd Gwener 24 Ionawr 2025

Ar 16 Ionawr, roedd cyffro mawr yn Ysgol Gynradd Afon y Felin, yng Ngogledd Corneli, wrth ddisgwyl ymweliad y Prif Weinidog, Eluned Morgan. Yn ystod ymweliad byr, dysgodd y Prif Weinidog am yr ysgol, sy’n hyrwyddo hunan-gred a dyheadau’r plant, er gwaetha’r heriau economaidd-gymdeithasol.

Tu cefn i Lark Rise yng Nghoetir Bryn Bracla, lle cafodd coed heintus eu gwaredu

Camau cychwynnol o'r cynllun ailblannu ar waith ar gyfer Coetir Bryn Bracla

Dydd Iau 23 Ionawr 2025

Y mis yma, mae cynllun wedi dechrau i hyrwyddo adfywiad naturiol mewn rhannau o Goetir Bryn Bracla, lle cafodd coed ynn heintus eu gwaredu y llynedd.

Argraff artist o'r ysgol newydd

Cais cynllunio wedi ei gyflwyno ar gyfer Ysgol Gynradd Mynydd Cynffig newydd

Dydd Mawrth 21 Ionawr 2025

Mae cynlluniau ar gyfer adeiladu Ysgol Gynradd Mynydd Cynffig newydd yn parhau i ddatblygu, gyda chais cynllunio llawn wedi ei gyflwyno i’w ystyried.

Gwaith atgyweirio hanfodol wedi dechrau ar Ffordd Fynydd y Bwlch

Dydd Mercher 15 Ionawr 2025

Mae gwaith atgyweirio brys i’r cwlfert ar ffordd A4061 Bwlch-y-Clawdd, Nantymoel, wedi dechrau’r wythnos hon er mwyn mynd i’r afael â’r difrod a achoswyd gan Storm Bert ym mis Tachwedd. Oherwydd yr angen am atgyweirio ar frys, mae contractwr arbenigol sydd eisoes yn gweithio i’r awdurdod lleol wedi ei awdurdodi i ymgymryd â’r gwaith fel bod modd ei hwyluso.

Disgyblion yn Ysgol Gynradd Bracla yn cymeradwyo brocoli organig o Gymru yn ystod sesiwn ‘blasu brocoli’.

Llysiau organig o Gymru ar y fwydlen mewn ysgolion ar draws Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Dydd Gwener 10 Ionawr 2025

Mae Cyngor Bwrdeistref Pen-y-bont ar Ogwr yn un o’r chwe awdurdod lleol i gyfranogi yn y prosiect ‘Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion Cymru’, menter traws-sector sy’n cyflwyno mwy o lysiau organig o Gymru i brydau bwyd mewn ysgolion cynradd ar hyd a lled Cymru.

Y cyfle olaf i wneud cais am gyllid ‘hybiau cynnes’

Dydd Iau 09 Ionawr 2025

Mae tîm Cyflogadwyedd Pen-y-bont, yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, mewn partneriaeth â Chymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Pen-y-bont ar Ogwr (BAVO), yn galw am y tro olaf am geisiadau ar gyfer y 'Cynllun Grant Hybiau Cynnes' a ariennir gan Lywodraeth Cymru.

Y Cyngor yn cyhoeddi ‘Adroddiad Blynyddol y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol 2024’

Dydd Mawrth 07 Ionawr 2025

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi cyhoeddi Adroddiad Blynyddol y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol, yn dilyn cyflwyniad o’r uchafbwyntiau i’r Cyngor ar gynlluniau i wella’r gwasanaeth, ac yn ystyried y cynnydd sylweddol a wnaed dros y flwyddyn ariannol ddiwethaf, ond hefyd yn tynnu sylw at yr heriau o fodloni lefelau anghenion mewn cyd-destun ariannol anodd i lywodraeth leol.

Amser Cyllideb I Siarad 2025-26

Dydd Mawrth 07 Ionawr 2025

Ar gyfer 2025-2-26, bydd y cyngor yn debygol o dderbyn cynnydd o 4 y cant yn setliad y gyllideb ar gyfer 2025-26. Yn anffodus, ni fydd hyn yn ddigon i ysgwyddo costau cynyddol a mwy o alw am wasanaethau.

Chwilio A i Y

Back to top